Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth newydd i’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Caerdydd

30 Hydref 2015

Heather waterman profile shot

Penodi'r Athro Heather Waterman yn bennaeth Ysgol sydd ymhlith y pump orau yn y DU

Mae ymchwilydd nyrsio llygaid rhyngwladol ei bri wedi cael ei phenodi i arwain Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r Athro Heather Waterman yn ymuno â'r Ysgol o Brifysgol Manceinion, a bydd yn cymryd lle'r Athro Sheila Hunt fel pennaeth yr Ysgol. Bydd yn gweithio i adeiladu ar enw da'r Ysgol o ran rhagoriaeth addysgu ac ymchwil iechyd arloesol.

Yn ddiweddar, ar ôl cael ei asesu gan banel a gefnogwyd gan y llywodraeth, nodwyd bod gwaith ymchwil Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ymhlith y 5 ysgol orau o'i math yn y DU. Dywedwyd bod 90 y cant o'i gwaith ymchwil 'o'r radd flaenaf'. Yn ogystal, yn ôl y Complete University Guide diweddaraf, cwrs ffisiotherapi'r Ysgol hon yw'r gorau yn y DU.

Mae gan yr Athro Waterman dros 25 mlynedd o brofiad mewn gwaith ymchwil i'r gwyddorau gofal iechyd, a bydd yn dod ag arbenigedd i'r Ysgol ym maes problemau meddygol a llawfeddygol sy'n ymwneud â'r llygaid. Mae hi wedi canolbwyntio'n benodol ar glawcoma – cyflwr sy'n amharu ar y golwg, sy'n effeithio ar tua hanner miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr.

Wrth siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Waterman: "Rwy'n llawn cyffro wrth feddwl am y cyfle i arwain Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae'n anrhydedd mawr. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion Grŵp Russell sydd â thraddodiadau rhagorol o ran addysgu ac ymchwil.

"Fy ngweledigaeth ar gyfer yr Ysgol yw adeiladu ar ei chryfderau presennol; ei henw da o ran safonau addysg uchel, sgôr anhygoel o uchel ar gyfer ymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, a'i maint – gall Ysgol mor fawr gael llawer o ddylanwad.   Yn anad dim, wrth gwrs, cryfder pennaf yr Ysgol yw ei phobl; academyddion, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr. Ni fyddai'r Ysgol yr un fath hebddynt.

"Fy nod fel pennaeth yr Ysgol yw sicrhau ein bod yn parhau i roi profiad rhagorol i'r myfyrwyr. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ofalgar, yn gymwys, yn foesegol ymwybodol ac yn wybodus, a nhw fydd arweinwyr eu maes yn y dyfodol. Rwyf hefyd am wneud yn siŵr ein bod yn cynnal gwaith ymchwil o'r radd flaenaf, sy'n arwain at wybodaeth a gaiff effaith uniongyrchol ar les pobl sy'n byw yng Nghaerdydd a thu hwnt."

Croesawyd y penodiad newydd gan yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r Athro Waterman yn benodiad allweddol ar gyfer y Brifysgol wrth iddi ddatblygu Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Rwy'n hyderus y bydd ei phrofiad a'i harbenigedd yn hwb mawr i'r Ysgol, ac yn hwb i gyflawni nodau strategol cyffredinol y Brifysgol."

Mae prosiect presennol yr Athro Waterman - sef prosiect y bydd yn ei drosglwyddo o Ysgol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Manceinion – yn canolbwyntio ar safbwyntiau cleifion sy'n byw gyda dementia a glawcoma.

Cymhwysodd fel nyrs o Ysbyty Brenhinol Manceinion ym 1983. Ar ôl ennill ei gradd o Kings College, Llundain, ymunodd â Phrifysgol Manceinion, lle enillodd radd PhD ym 1994. Roedd yn Athro Nyrsio ac Offthalmoleg yn y Brifysgol am oddeutu 13 blynedd.

Mae ganddi hefyd enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ymchwil i hyrwyddo hunanofal cleifion sydd â chyflyrau hirdymor, yn enwedig y cyflyrau hynny sy'n cynnwys colli golwg.