Ewch i’r prif gynnwys

Archfygiau: Siop Wyddoniaeth Dros Dro (29 Gorffennaf – 11 Awst)

26 Gorffennaf 2019

Image of the Superbugs storefront

Erioed wedi ystyried pa ficro-organebau sy'n byw ar eich croen? Galwch heibio i'n labordy rhyngweithiol yng nghanol canolfan siopa brysur Caerdydd i gael gwybod, a gallwch chi hyd yn oed dynnu lluniau ohonynt!

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn creu siop unigryw, sy'n cynnig gemau rhyngweithiol a gweithgareddau labordy rhad ac am ddim i deuluoedd sy'n ymweld â chanol y ddinas.

Bydd 'Archfygiau' ar lawr uchaf Dewi Sant 2 (gyferbyn â siop Apple) am bythefnos yn ystod gwyliau'r haf. Wrth ganolbwyntio ar her fyd-eang ymwrthedd i wrthfiotigau, mae'n cynnig cymysgedd o weithgareddau gan gynnwys gemau, celf a chrefft ac arbrofion labordy.

Caiff y digwyddiad ei ariannu a'i gefnogi gan Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd a Wellcome.

Mae'r gorsafoedd gweithgareddau yn cynnwys:

  • Tyfu eich Microbau eich Hun: profwch eich hun am facteria a bydd ein tîm yn tyfu eich samplau swab mewn labordy ac yn postio lluniau ar-lein fel bod modd i chi weld beth sydd wedi bod yn byw ar eich corff.
  • Creu eich Microbau eich Hun: gorsaf celf a chrefft lle gallwch 'greu eich bacteria eich hun'
  • Lledaenu Ymwrthedd i Wrthfiotigau: dysgwch sut mae bacteria yn rhannu ac yn lledaenu ymwrthedd (gan gynnwys gêm taflu cylchoedd)
  • Gorsaf Microsgop: edrychwch yn fanylach ar y mathau gwahanol o facteria drwy ficrosgop.

a young boy looking down a microscope

Dywedodd Dr Jonathan Tyrrell, o'r Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau: “Un o'n meysydd ymchwil yw'r broblem fyd-eang difrifol o ymwrthedd i wrthfiotigau, sy'n cyfyngu ar y cyffuriau sydd gennym i drin heintiau. Ond nid ni wyddonwyr yw'r unig rai sy'n gallu mynd i'r afael â'r broblem hon; gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth drwy fod yn ymwybodol o'r bacteria sy'n byw ynom, arnom ac o'n hamgylch, sut maent yn lledaenu a sut maent yn datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau."

Bydd ymwelwyr i siop dros dro Archfygiau hefyd yn dysgu sut mae eu cyrff yn ymladd yn erbyn germau 'gwael' sy'n ein gwneud ni'n sâl ac yn defnyddio germau 'cyfeillgar' i'n cadw ni'n iach, sut mae gwrthfiotigau yn gweithio, a pham mae’n well weithiau peidio â'u defnyddio.

Dywedodd Dr Tyrrell: "Amcangyfrifir y gallai ymwrthedd gwrthficrobaidd ladd tua 2.4 miliwn o bobl yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia erbyn 2050, oni bai bod mwy yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem.

"Rydym yn gobeithio y bydd ein labordy dros dro yn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o'r broblem gynyddol tra'n rhoi blas i blant ar ychydig o'r ymchwil blaenllaw mae ein gwyddonwyr iechyd lleol yn ei chynnal. Hefyd mae'n lle gwych i blant gael hoe o'r siopa!"

Mae'r gweithgareddau archfygiau wedi'u hanelu'n bennaf at blant rhwng 6 a 12 oed, ond bydd wybodaeth o ddiddordeb i bobl iau a hŷn sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth ac sy'n awyddus i ddarganfod.

Rhannu’r stori hon