Ewch i’r prif gynnwys

Mae consortiwm Lab Ymchwil Ynni Clyfar (SERL) yn gwahodd aelwydydd i rannu eu data ynni

25 Gorffennaf 2019

SERL
SERL invites households to share their energy data

Mae’r Athro Chris Tweed a Dr Simon Lannon o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn rhan o Labordy Ymchwil Ynni Clyfar (SERL); prosiect ymchwil blaenllaw yn y DU sydd â'r nod o ddefnyddio data ynghylch defnydd o ynni sydd ar gael drwy fesuryddion deallus i sbarduno ymchwil ynni arloesol a gwneud ynni’r DU yn fwy effeithlon, cynaliadwy a fforddiadwy.

Caiff SERL ei redeg gan gonsortiwm o saith prifysgol* yn y DU a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a ariennir gan UKRI (Cynghorau Ymchwil y DU). Mae’r tîm wedi bod yn gweithio ers mis Awst 2017 i ddatblygu strwythurau technegol a llywodraethu data cymhleth sydd eu hangen i sicrhau bod data ynghylch defnydd o ynni yn cael ei gasglu o gartrefi sydd wedi cytuno yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys GDPR a’r Côd Ynni Clyfar.

Bydd data'n cael ei storio ar blatfform data mawr o'r radd flaenaf yn Archif Data'r DU, a gynhelir ym Mhrifysgol Essex. O'r fan hon mae ymchwilwyr academaidd achrededig y DU yn cael mynediad rheoledig i ddata priodol ar gyfer prosiectau ymchwil cymeradwy trwy borth ymchwil diogel. Bydd ceisiadau prosiect yn cael eu hasesu gan fwrdd llywodraethu data i sicrhau bod eu defnydd o'r data yn cydymffurfio â llywodraethu data trylwyr a phrotocolau moesegol.

Dywedodd Robert Cheesewright, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol Smart Energy GB: ‘Mae'n gyffrous gweld prosiectau newydd ac arloesol yn digwydd sy'n harneisio technoleg mesuryddion deallus. Bydd ymchwil SERL yn allweddol wrth ddatgloi llawer mwy o fuddion mesuryddion craff ar aelwyd ac ar lefel genedlaethol, gan helpu i yrru arloesedd a datblygiad yn y sector ynni am flynyddoedd i ddod. '

Mae’r tîm prosiect wedi bod yn gweithio gyda Ipsos MORI i ddatblygu cyfnod peilot o recriwtio cyfranogwyr, a fydd yn cael ei gynnal o fis Awst tan fis Hydref 2019. Yn dilyn y cyfnod peilot, bydd cyfnod arall o recriwtio cyfranogwyr ar ddechrau 2020. Yn y pen draw, targed SERL yw recriwtio 10,000 o gartrefi i gymryd rhan ar gyfer y panel arsyllfa graidd.

Dywedodd Tadj Oreszczyn, Athro mewn Ynni a’r Amgylchedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrif Ymchwilydd SERL: ‘Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r prosiect wrth i ni ddechrau recriwtio cartrefi yn y DU a nesáu at ddyddiad lansio'r porth ymchwil. Rydym yn gobeithio y bydd SERL yn galluogi cenhedlaeth newydd o ymchwil ynni sy’n gallu helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.’

Dywedodd Simon Elam, Cyfarwyddwr SERL, Coleg Prifysgol Llundain: ‘Mae llawer o waith cefndir wedi’i wneud i sicrhau bod ein systemau a’n protocolau yn gadarn ac yn ddiogel. Wrth i’r data ddechrau llifo, rydym yn symud at gam newydd o’r prosiect a fydd yn cynnwys mireinio ein systemau a dechrau ymchwil arloesol gan ddefnyddio data SERL’

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i wefan SERL

* partneriaid ymchwil:

University College London, University of Essex UK Data Archive, Cardiff University, University of Edinburgh, Energy Saving Trust, Leeds Beckett University, Loughborough University, University of Southampton.

Rhannu’r stori hon