Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaid Ewropeaidd yn awyddus i ddysgu o lwyddiannau mentoriaid iaith

22 Gorffennaf 2019

Modern foreign language student mentoring

Mae menter mentora arloesol dan arweiniad yr Ysgol Ieithoedd Modern bellach yn rhannu arfer gorau gyda phartneriaid ledled Ewrop.

Ar ôl pedair blynedd lwyddiannus yn gosod myfyrwyr israddedig mewn ysgolion lleol yng Nghymru, mae'r cynllun mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern bellach yn datblygu perthynas yn Sbaen.

Ar hyn o bryd mae dros 70 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan yn y cynllun gyda myfyrwyr yn mentora ac yn annog disgyblion ysgol iau i ystyried astudio ieithoedd tramor. Mae ysgolion partner wedi cyhoeddi bod nifer y disgyblion sy’n dewis ieithoedd ar lefel TGAU wedi dyblu, ac mewn rhai achosion wedi treblu, a bod gwell cymhelliant i barhau i astudio a mynd i’r brifysgol.

O ganlyniad, mae Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB), sy'n hwyluso perthnasoedd rhwng Prifysgolion Cymru a phartneriaid rhanbarthol ar y cyfandir, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau a senarios trosglwyddo gwybodaeth i ledaenu'r gair i gydweithwyr yn Ewrop.

Ym mis Mawrth, gwahoddod WHEB ddirprwyaeth o fentoriaid myfyrwyr ledled Cymru i Wlad Belg i dderbyniad blynyddol Gŵyl Ddewi ym Mhreswylfa Llysgennad y DU ym Mrwsel ym mhresenoldeb y Prif Weinidog Mark Drakeford. Soniodd Mr Drakeford am gynnal llais Cymru yn Ewrop gan bwysleisio pwysigrwydd prosiectau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor fel modd i hybu meddylfryd byd-eang.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, teithiodd pedwar o'r mentoriaid myfyrwyr i Valladolid yng ngogledd orllewin Sbaen i fentora plant ysgol gynradd a chael eu cysgodi gan ddarpar athrawon. Arhosodd y pedwar myfyriwr, Lewis Hacker, Emily James, Natalie Organ a Rhiannon Williams, gyda theuluoedd yn Sbaen yn ystod eu hymweliad ac roedd hyn yn cynnig cipolwg unigryw iddyn nhw ar fywyd Sbaen a system ysgolion y rhanbarth, sydd, fel Cymru, wedi'i datganoli o lywodraeth ganolog Sbaen.

Ym mis Mehefin eleni, croesawodd yr Ysgol ddirprwyaeth o swyddogion llywodraeth Sbaen i Gaerdydd ar ôl y treial mentora llwyddiannus i drafod y camau nesaf. Ymwelodd y cydweithwyr ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal leol gan ddechrau creu cysylltiadau i ddatblygu cyfnewid disgyblion ac athrawon. Cyfarfu'r cydweithwyr hefyd gyda Llywodraeth Cymru gan drafod gweledigaeth gyffredin ar gyfer hyrwyddo amlieithrwydd. Yn y flwyddyn academaidd nesaf, bydd y prosiect mentora'n teithio eto i Valladolid i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i fabwysiadu golwg fyd-eang ynghyd â sensitifrwydd diwylliannol a'r gobaith yw y bydd y bartneriaeth rhwng y rhanbarth a'r Ysgol Ieithoedd Modern yn cryfhau dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Lucy Jenkins, Cydlynydd Cenedlaethol y cynllun mentora myfyrwyr ieithoedd tramor "Roedd yn wych cael croesawu ein cydweithwyr o Sbaen i Gaerdydd. Rydym ni i gyd yn cytuno bod angen sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle a’r brwdfrydedd i astudio ieithoedd rhyngwladol. Fel aelodau o gymuned fyd-eang, mae'n gynyddol bwysig bod pobl ifanc yn cael sgiliau ar gyfer cyfathrebu'n effeithiol ar draws ffiniau a diwylliannau." 

"Mae'n wych gweld y fath frwdfrydedd dros yr hyn rydyn ni eisoes wedi'i sefydlu yng Nghymru a bod cydweithwyr Ewropeaidd yn edrych ar Gymru fel model ar gyfer hybu cymhelliant i astudio ieithoedd a diwylliannau. Rydym ni'n wirioneddol falch o'n gwaith hyd yma ac wrth ein bodd yn meddwl y bydd cael effaith ar ddisgyblion yn Sbaen, neu hyd yn oed ymhellach yn y dyfodol".

Rhannu’r stori hon