Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn cael ei henwi'n 'Bencampwr Cyflog Byw'

2 Tachwedd 2015

Living wage champions

Gwobrwyo'r Brifysgol am gydnabod pwysigrwydd y Cyflog Byw, a all newid bywydau

Dewiswyd Prifysgol Caerdydd fel enillydd Gwobr Pencampwr Cyflog Byw 2015 rhanbarth Cymru. Dyma'r unig brifysgol yn y DU i gael y gydnabyddiaeth hon.

Mae'r gwobrau, a gydlynir gan y Sefydliad Cyflog Byw, yn dathlu Cyflogwyr Cyflog Byw sydd wedi gwneud cyfraniadau mawr i gymunedau a diwydiannau, drwy weithredu'r Cyflog Byw, a chydnabod ei bwysigrwydd, a all newid bywydau.

Mae'r gwobrau'n rhan o Wythnos Cyflog Byw 2015, sef dathliad cenedlaethol o gyflog cyfrifol, 1 - 7 Tachwedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr dros dro'r Sefydliad Cyflog Byw, Sarah Vero: "Llongyfarchiadau i Brifysgol Caerdydd ar ennill Gwobr Pencampwr Cyflog Byw. Gyda 2,000 o gyflogwyr bellach wedi cofrestru, mae'n wych gweld Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd yng Nghymru. Mae arweinyddiaeth cyflogwyr cyfrifol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau teuluoedd a chymunedau ledled y DU. Diolch yn fawr iawn i chi am ddathlu'r Cyflog Byw."

Ym mis Tachwedd 2014, Prifysgol Caerdydd oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru, ac un o blith llond llaw yn unig o brifysgolion Grŵp Russell y tu allan i Lundain, i gael ei hachredu fel cyflogwr Cyflog Byw. 

Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o gael ein henwi yn Hyrwyddwr Cyflog Byw ac i osod esiampl i gyflogwyr eraill yng Nghymru, a'r sector addysg uwch yn fwy cyffredinol. Mae bod yn gyflogwr Cyflog Byw wedi cyfleu neges glir ein bod yn gwerthfawrogi'r holl bobl sy'n gweithio ar ein cyfer."

Mae'r Sefydliad Cyflog Byw yn cynnig marc cydnabyddiaeth i gyflogwyr sy'n ymrwymo i dalu'r cyfraddau Cyflog Byw gwirfoddol i'r staff a gyflogir yn uniongyrchol ganddynt, ac i'r isgontractwyr ar eu safle. Bellach, mae dros 2,000 o gyflogwyr wedi cofrestru gyda'r Sefydliad.

Mae'r Cyflog Byw yn gyfradd fesul awr a gaiff ei gosod yn annibynnol a'i diweddaru'n flynyddol. Cyfrifir y Cyflog Byw yn ôl y gost sylfaenol o fyw, gan ddefnyddio'r 'Safon Isafswm Incwm' ar gyfer y DU. Y cyhoedd sy'n penderfynu beth i'w gynnwys yn y safon hon; consensws cymdeithasol ydyw ynghylch beth mae ar bobl ei angen i ddal dau ben llinyn ynghyd.

Mae un enillydd Gwobr Pencampwr wedi'i enwi ym mhob un o ranbarthau'r DU: Yr Alban; Cymru; Gogledd Iwerddon; Dwyrain Canolbarth Lloegr; Gorllewin Canolbarth Lloegr; Dwyrain Lloegr; Swydd Efrog a Humber; Gogledd-ddwyrain Lloegr; Gogledd-orllewin Lloegr; De-ddwyrain Lloegr; De-orllewin Lloegr; a Llundain.

Beirniadwyd y gwobrau gan banel annibynnol o arweinwyr cymunedol o Citizens UK, elusen genedlaethol ar gyfer trefnu cymunedol, a chartref ymgyrch Cyflog Byw.

Rhannu’r stori hon