Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn arddangos eu gwaith yng Nghadeirlan Llandaf

19 Gorffennaf 2019

Music is mission
Music is Mission project, Llandaff Cathedral

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae myfyrwyr MArch1 wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gallai Cadeirlan Llandaf ehangu apêl ei harbenigedd a’i chyfleusterau cerddorol i holl aelodau’r gymuned. 

Er mai ystyriaeth o syniadau yw hyn, mae’r Deon wedi cefnogi’r prosiect, gan helpu’r myfyrwyr i ddatblygu amlinelliad ‘byw’ cyffrous am Ganolfan Gerddoriaeth newydd yn Llandaf sydd wedi arwain at rai cynigion ffantastig a dychmygus. Agorwyd arddangosfa ‘Music is Mission’ ar 20 Mehefin 2019 gyda digwyddiad cymunedol a arweiniwyd gan fyfyrwyr. Mae’n arddangos dyluniadau’r myfyrwyr ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd i gymryd rhan yn y prosiect drwy roi’r cyfle i aelodau’r gymuned gyhoeddi sylwadau am botensial datblygiadau newydd.

Meddai Majd Alkadri, un o’r myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r prosiect:

“Roedd hwn yn gyfle gwych i weithio ar amlinelliad prosiect ‘byw’ ac ystyried y posibiliadau ar gyfer y safle. Am brofiad bu mynd i ymgynghoriad cyhoeddus a chael cwrdd â’r cyhoedd yn uniongyrchol, gan mai’r cyhoedd fydd defnyddwyr posibl y safle, er mwyn egluro ein syniadau.”

Erbyn hyn, gall Cabidwl y Gadeirlan ddefnyddio gwaith prosiect ac arddangosfa’r myfyrwyr i hyrwyddo potensial y prosiect ac ymgysylltu â chyllidwyr a sefydliadau eraill yng Nghaerdydd. Bydd yr arddangosfa’n agored i’r cyhoedd tan fis Medi 2019.

Rhannu’r stori hon