Ewch i’r prif gynnwys

Mae Arddangosfa'r Haf yn arddangos portffolio gwaith trawiadol

1 Gorffennaf 2019

WSA Summer Exhibition 2019
WSA Summer Exhibition 2019

Ar 21 Mehefin cynhaliodd Ysgol Pensaernïaeth Cymru noswaith o ddathlu i nodi agoriad yr Arddangosfa Haf.

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn o dan arweiniad myfyrwyr yn arddangos yr amrywiaeth eang o waith gan fyfyrwyr ar draws graddau Meistr a graddau Baglor yn yr Ysgol. Roedd y gwaith a gyflwynwyd yn cynnwys prosiect difyr gan fyfyrwyr MArch1 ar eu syniadau i greu canolfan gerddoriaeth newydd yng Nghadeirlan Llandaf a chynrychiolaeth 3D o ddata tywydd yn Llundain drwy ddefnyddio Model Sboncyn y Gwair (Grasshopper) wedi’i lunio drwy ddefnyddio Robot Kuka yr Ysgol.

Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Chris Tweed: “Mae’r Ysgol yn hynod falch o’i myfyrwyr. Mae ansawdd y gwaith yn rhagorol. Maent wedi trefnu a curadu’r arddangosfa hon, gan ddangos y math o sgiliau arweinyddiaeth sydd wir ei hangen i wneud y byd yn le gwell. Gallwn ni gyd ddysgu ganddynt, a dyna sut y dylai fod.”

WSA Summer Exhibition 2
A visitor views the work on display at the WSA Summer Exhibition

Daeth aelodau o’r cyhoedd o bob rhan o’r byd i weld y portffolio amrywiol o waith a gyflwynwyd yn yr arddangosfa, gyda llawer ohono wedi’i chreu i ddangos ymatebion pensaernïol i amrywiaeth o faterion a chyd-destunau byd-eang. Dywedodd Ymarferydd o Lundain a ddaeth i ymweld â’r arddangosfa: “Edrychais yn hir ar yr arddangosfa, a rhaid i mi gyfaddef ei fod yn rhagorol - roedd hi’n wefreiddiol gweld cymaint o dalent yn cael ei arddangos - ac roedd yr awyrgylch, egni a’r brwdfrydedd ymhlith y myfyrwyr a’r ymwelwyr yn ysbrydoledig.”

Roedd yr unedau a gyflwynwyd i’r cyhoedd yn cynnwys: Trefolaeth Hwylus, Dychymyg Amgylcheddol, Gwerth, Crefft, Addasu Lleol, Cymunedau Iach a Threfolaeth Isadeiledd. Agorwyd yr arddangosfa ar 21 Mehefin yn Adeilad Bute ac mae ar gael i’w gweld tan 16 Gorffennaf 2019.

Rhannu’r stori hon