Ewch i’r prif gynnwys

Athro Bydwreigiaeth yn cael Cymrodoriaeth uchel ei pharch

26 Mehefin 2019

Midwifery Professor receives prestigious Fellowship

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth RCM i'r fydwraig a'r Athro Julia Sanders o Brifysgol Caerdydd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd.

Mae cynllun Cymrodoriaeth y Coleg yn cydnabod bydwragedd sy'n rhoi arweiniad eithriadol ac sy'n cyflwyno rhagoriaeth mewn ymarfer, addysg neu ymchwil.

Mae Julia wedi bod yn fydwraig ers 1986 ac wedi cyfuno rolau clinigol, addysgu ac ymchwil trwy gydol y rhan fwyaf o'i gyrfa. Roedd Julia yn Fydwraig Ymgynghorol yng Nghaerdydd am 12 mlynedd o 2005 ymlaen. Ar hyn o bryd, mae hi'n gweithio mewn swyddi ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn datblygu a chyflwyno ymchwil ac yn annog eraill i wneud yr un fath.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, hi sy'n arwain rhaglen ar ymchwil bydwreigiaeth yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae astudiaethau presennol yn cynnwys astudiaeth POOL wedi'i hariannu gan NIHR, sy'n gwerthuso diogelwch geni mewn dŵr i famau a babanod ac yn gwerthuso effeithiolrwydd Rhaglen Bartneriaeth Nyrsys Teulu yn Lloegr a'r Alban.

Julia yw arweinydd NIHR yng Nghymru ar gyfer Iechyd Atgenhedlu a Geni Plant ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad yn dylunio a chyflwyno astudiaethau mawr a chymhleth yn gwerthuso bydwreigiaeth ac ymyriadau yn y blynyddoedd cynnar.

Ar ôl derbyn ei gwobr, dywedodd yr Athro Julia Sanders, "Braint ac anrhydedd yw cael y wobr hon a bod yn Gymrawd RCM. Hoffwn ddiolch i fy holl gydweithwyr clinigol ac academaidd sydd wedi fy ysbrydoli, fy nghefnogi a fy annog drwy gydol fy ngyrfa, yn ogystal â’r llu o fenywod a bydwragedd sydd wedi cyfrannu, neu fydd yn cyfrannu, ym mhrosiectau ymchwil y dyfodol."

"Rwy'n rhagweld y bydd y Gymrodoriaeth yn cynnig cyfleoedd newydd i mi gefnogi bydwragedd wrth iddynt ofalu am fenywod, babanod a theuluoedd."

Darllenwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Gymrodoriaethau RCM.

Rhannu’r stori hon