Ewch i’r prif gynnwys

Cychod Pysgod yn Cymryd Lle Creigresi Cwrel Caribïaidd Coll

26 Mehefin 2019

Kathryn Whittey

Mae creigresi cwrel ein moroedd yn marw ledled y byd, ond gall ymgyrch Kickstarter i greu creigresi artiffisial newydd o ddeunyddiau bob dydd gynnig yr ateb i’r her fyd-eang ddigynsail hon.

Mae creigresi cwrel yn cefnogi chwarter o’r holl rywogaethau morol, yn ogystal ag yn rhoi bwyd a meddyginiaeth i fodau dynol, ac yn diogelu’r arfordir. Ond mae’r ecosystemau tanddwr hyn yn marw ar gyfradd frawychus o ganlyniad i weithgareddau dynol - gyda channydd, llygredd a gor-ecsbloetio yn gyfrifol am ladd tua 60% o greigresi yn y Caribî.

Mae Kath Whittey, myfyriwr PhD o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn defnyddio modelu 3D i astudio a monitro amgylcheddau morol yn Tobago ac wedi llunio ateb newydd i’r golled o greigresi cwrel.

Mae ei hymchwil, a ariennir gan KESS, wedi ei hysgogi i ddatblygu Cychod Pysgod. Cânt eu hadeiladu o goncrit a’i mowldio o amgylch sboncwyr (space hopper), sy’n cynnig strwythur fforddiadwy, hawdd i’w ail-greu i efelychu cynefin y cwrel.

“Gyda newidiadau yn yr hinsawdd, mae dyfodol creigresi cwrel bellach yn ein dwylo.

“Mae strwythur y cwrel yn cynnig pob math o gilfachau sy’n gynefin perffaith i rywogaethau eraill y creigresi. Mae nifer o rywogaethau pysgod yn colli eu cynefinoedd o ganlyniad i farwolaeth ein creigresi cwrel.

“Mae angen strwythur creigres fforddiadwy, hawdd i’w greu a ellir ei osod gan unrhyw un. O’r herwydd, gwnaethom ddatblygu’r Cwch Pysgod.

“Caiff ein Cwch Pysgod ei greu trwy ddefnyddio sbonciwr a bambŵ wedi’i ganfod yn lleol i greu mowld. Defnyddir y cwrel i greu cromen, sy’n efelychu cynefin y cwrel”, meddai Kath.

Caiff y prosiect ei gefnogi gan newydd, gyda’r nod o godi £2,500 i greu creigresi cwrel artiffisial, a gaiff eu gosod yn Tobago lle gellir eu monitro gan Brifysgol Caerdydd a gwyddonwyr Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol Charlotteville.

Dywedodd Kath: “Mae creigresi artiffisial yn adlewyrchu gofod a chymhlethdod y cwrel, ond maent yn ddrud ac yn anodd ei hadeiladu ar hyn o bryd. Mae ein Cychod Pysgod yn cynnig ateb rhad a rhwydd.

“Rhoddir cychod prawf ar greigres yn Tobago, lle mae Prifysgol Caerdydd wedi cynnal safle astudiaeth hirdymor am dros ddegawd.

“Yna gallwn fonitro pa bysgod o’r creigresi sy’n defnyddio’r Cychod Pysgod, pa mor aml maent yn creu eu cartrefi a pha greigresi fydd yn creu cytrefi.

“Trwy greu Cychod Pysgod cromen concrid fforddiadwy o ddeunyddiau lleol, naturiol bob dydd, bydd y strwythurau creigresi artiffisial hyn yn galluogi grwpiau deifio lleol a chymunedau ymchwil i gyfrannu at y genhadaeth barhaus i achub ein creigresi cwrel.”

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn am ein rhaglenni PhD a MRes, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn y darganfyddwr cwrs.