Cydymaith Ymchwil Peirianneg yn ennill gwobr Arweinydd Arloesedd y Dyfodol
20 Mehefin 2019
Enillodd Dr Bethany Keenan, Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol yn yr Ysgol Peirianneg, y wobr fwyaf newydd, Arweinydd Arloesedd y Dyfodol, yn y Seremoni Wobrwyo Arloesedd ac Effaith eleni. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion sydd wedi chwarae rôl weithredol mewn datblygu effaith eu hymchwil.
Mae Bethany yn Beiriannydd Siartredig ac yn Aelod o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Mae hi’n gweithio gyda chydweithwyr clinigol a diwydiannol, ac ymchwilwyr o Ysgolion eraill ar draws y Brifysgol (Biowyddorau, Meddygaeth, Mathemateg, Fferylliaeth, Seicoleg a Chanolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd) i fagu profiad o feysydd amlddisgyblaethol.
Mae Bethany’n arwain prosiectau ymchwil cydweithredol, rhyngwladol, blaengar ym maes mecaneg meinweoedd meddal a delweddu meddygol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar wlserau gwasgedd. Er mwyn amgyffred ymddygiad meinweoedd meddal a sut maent yn newid yn sgîl niwed, ac wrth atgyweirio ac addasu, mae hi’n ymchwilio i agweddau sylfaenol ar ffurfiant wlserau gwasgedd, i’w hatal a gwella triniaethau ar eu cyfer. Ei nod cyffredinol yw gwella canllawiau clinigol a phrofi dulliau pennu pa gynhyrchion/dulliau sy’n debygol o fod yn fwyaf effeithiol o ran atal niweidiau. O bosibl, bydd hyn yn helpu clinigwyr a gofalwyr i wneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal gorau posibl.
Mae Bethany’n Weithredwr MR i CUBRIC. Hi yw’r Dirprwy Gydlynydd Staff Ymchwil yn yr Ysgol Peirianneg ac mae hi’n Llysgennad STEM hefyd.
Dyfarnwyd y wobr ar sail gallu’r ymgeisydd i roi tystiolaeth o weithgareddau sy’n dangos y canlynol: effaith fuddiol ar weithgareddau ymchwil y Brifysgol, ymwybyddiaeth amlddisgyblaethol a/neu bartneriaeth academaidd allanol, ymgysylltu a/neu gydweithio â diwydiant, gwella’i sgiliau technegol a throsglwyddadwy, arweinyddiaeth ac amlygu potensial effeithiau ac ymgysylltu â’r cyhoedd a/neu randdeiliaid.
Trefnir y Gwobrau Arloesedd ac Effaith gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, ac maent wedi bod yn hyrwyddo'r partneriaethau rhwng y Brifysgol â busnesau ers dros ugain mlynedd.
Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar 3 Mehefin.