Ewch i’r prif gynnwys

Mae Grangetown Festival yn mwynhau trigolion lleol

17 Mehefin 2019

GT Festival19
Grangetown Festival 2019

Bu dros 500 o bobl yn ymweld â Gŵyl Grangetown yng Ngerddi Grange eleni ar thema’r gofod.

Fe wnaeth y Porth Cymunedol a gwirfoddolwyr o Gweithredu Cymunedol Grangetown helpu i gynllunio a chyflwyno'r ŵyl gyda chefnogaeth gan Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange. Eleni roedd dros 50 o stondinau yno, gan gynnwys llawer o fusnesau lleol, ac roedd yn hyfryd gweld ymgyrch #shoplocal ar waith.

Roedd y Porth cymunedol a'r penseiri Dan Benham a'r grŵp IBI yn gallu dangos y cynlluniau ar gyfer y Pafiliwn Grange newydd ac roedd yn wych gweld ymateb a chyffro cadarnhaol y pobl.  Aeth plant lleol ati i wneud teilsen ar gyfer yr adeilad newydd yn rhan o weithgaredd y Porth Cymunedol dan arweiniad myfyriwr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru .

Dywedodd rheolwr prosiect y Porth cymunedol Lynne Thomas: "Roedd yr haul yn tywynnu ac roedd yno gymysgedd hyfryd o stondinau gwybodaeth, gweithgareddau, gwerthwyr a cherddoriaeth fyw. Roedd yr awyrgylch yn wych ac roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r diwrnod. Roedd y trefnwyr yn falch iawn bod cynifer o drigolion wedi dod i gefnogi digwyddiad o dan arweiniad y gymuned."

GT Festival192
Grangetown Festival 2019

Yn ystod y digwyddiad cafodd Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange Wobr Joan Gallagher eleni am waith eithriadol yng Nghymuned Grangetown. Dywedodd Ali Abdi, rheolwr partneriaethau a sylfaenydd Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange: "Ni fyddai'r ŵyl wedi bod yn gymaint o lwyddiant heb gymorth aelodau Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange. Maent wedi gweithio'n ddiflino i wneud yn siŵr bod popeth yn barod erbyn dechrau’r Ŵyl ac fe arhoson nhw yn hwyr i wneud yn siŵr bod popeth wedi’i dacluso ar y diwedd. Mae'n briodol eu bod wedi ennill y wobr hon.”

Mae Gŵyl Grangetown yn ddigwyddiad blynyddol a arweinir gan y gymuned sydd wedi cael ei chynnal yn llwyddiannus ers dros 40 o flynyddoedd.

Rhannu’r stori hon