Ewch i’r prif gynnwys

Pharmabees yn Eisteddfod yr Urdd

14 Mehefin 2019

Dylan y Ddraig yn cydio’r archfyg, MRSA. Mae ymchwilwyr yn ceisio datblygu meddyginiaethau newydd gan ddefnyddio gwenyn a mêl i frwydro yn erbyn yr archfyg yma.

Cafodd y tîm Pharmabees amser gwych yn Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos olaf mis Mai. Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am brosiect Pharmabees yn y digwyddiad.

Roedd y myfyrwyr yn mwynhau ein gweithgaredd microsgop rhyngweithiol; roeddent yn dysgu am y gwahanol beilliau mae gwenyn yn eu casglu ac mae ymchwilwyr yn eu defnyddio i greu meddyginiaethau newydd. Edrychodd y myfyrwyr o dan y microsgop i nodi tri math gwahanol o baill, dant y llew, derw, a meillion.  Roedd y myfyrwyr yn paru’r sleidiau o dan y microsgop â'r paill oedd wedi’i argraffu’n 3D ac yn datrys y cliwiau i ddarganfod pa blanhigyn roedd y paill yn perthyn iddo.  Yn ogystal â'r gweithgaredd paill, roedd y myfyrwyr yn gallu gwisgo fel gwenynwyr, dysgu mwy am yr hyn y mae ymchwilydd yn ei wneud yn y labordy, dysgu am sut mae mêl yn ymwneud â meddyginiaethau newydd, a gofyn cwestiynau am wenyn.

Roedd y myfyrwyr yn gallu cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill microsgop drwy gyflwyno eu llun a'r hyn y maent wedi'i ddysgu. Cafodd un enillydd lwcus microsgop i fynd adref i wneud ei waith ymchwil ei hun!  Galwodd Dylan y Ddraig heibio i glywed am yr archfyg, MRSA. Mae ymchwilwyr yn ceisio datblygu meddyginiaethau newydd gan ddefnyddio gwenyn a mêl i helpu i frwydro yn erbyn yr archfyg yma.

Roedd y myfyrwyr a rhieni yn mwynhau dysgu am y prosiect Pharmabees - roedd yn fêl ar eu bysedd!

Un o'n haelodau tîm Pharmabees yn cynnal y gweithgaredd microsgop.
Enillydd ein cystadleuaeth microsgop, yn dysgu am wenyn a phaill.
Stondin Pharmabees yn Eisteddfod yr Urdd.
Dylan y Ddraig yn cydio’r archfyg, MRSA. Mae ymchwilwyr yn ceisio datblygu meddyginiaethau newydd gan ddefnyddio gwenyn a mêl i frwydro yn erbyn yr archfyg yma.

Rhannu’r stori hon