Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd byd-eang i fyfyrwyr o Gymru

12 Mehefin 2019

Students looking over papers

Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd sy’n cynnig cyllid i fyfyrwyr israddedig Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru i ymgymryd â chyfleoedd astudio, gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli am gyfnod byr mewn amrywiaeth o wledydd targed ar draws y byd. 

Mae Cymru Fyd-eang Darganfod wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, a chafodd ei ddatblygu gan British Council Cymru.

Datblygwyd y rhaglen mewn ymateb i ffigyrau sy’n dangos bod niferoedd isel o fyfyrwyr Cymraeg mewn prifysgolion yn astudio, gwirfoddoli neu’n ymgymryd â phrofiad gwaith dramor yn rhan o’u hastudiaethau.

Cefnogwyd y lansiad ar 10 Mehefin 2019 gan Universities UK International.

Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru:  “Mae profiad rhyngwladol yn creu cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru sydd â chysylltiadau byd-eang. Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod israddedigion sy’n ymgymryd â phrofiad rhyngwladol yn fwy tebygol o gael gradd dda, bod yn fwy cyflogadwy a gallu ennill cyflog uwch.”

“Bydd y rhaglen hon yn helpu i adeiladu presenoldeb Cymru ar draws y byd, gan gefnogi myfyrwyr Cymru i dreulio amser mewn gwledydd sydd o ddiddordeb arbennig i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys: UDA, Canada, Japan UAE, Qatar, Fietnam, India, Tsieina a’r UE cyfan. Bydd lleoliadau o gymorth i Gymru wrth ffurfio perthnasau newydd gydag unigolion, sefydliadau a mentrau yn y gwledydd hyn.

Mae’r cynllun gwerth £1.6m wedi’i ddatblygu gan Gyngor Prydeinig Cymru drwy gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chymru Fyd-eang fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Adolygiad Diamond ar gymorth i fyfyrwyr sy’n dewis astudio dramor.

Mae’r rhaglen yn ceisio mynd i’r afael â diffygion o ran nifer y myfyrwyr sydd â phrofiad rhyngwladol tra yn y Brifysgol. Maent yn gwneud hyn drwy gynnig cyfleoedd tymor byr sydd wedi’u hariannu a all gyd-fynd a chyrsiau myfyrwyr a’u hymrwymiadau gwaith a theuluol.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Fel rhywun a gafodd fudd mawr o fy amser yn astudio dramor tra’n fyfyrwraig israddedig, rwy’n gwybod yn union sut mae profiad o’r fath yn ehangu eich gorwelion. Rydym yn gweithredu’n uniongyrchol i agor cyfleoedd, darparu cymorth sydd wedi’i dargedu, a gwella cyfleoedd bywyd pob dysgwr yng Nghymru. Mae astudio'n rhyngwladol yn ffordd gwych o gynyddu symudedd cymdeithasol, ac rydw i eisiau sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn agored i bawb, o bob cefndir ac ar draws Cymru gyfan.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch mwy am adnoddau Undeb y Myfyrwyr, y chwaraeon a'r cymdeithasau sy'n rhan o'n cymuned Prifysgol lewyrchus. (Nodwch mae'r fideo ar gael yn Saesneg yn unig)