Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarthiadau Sefydliad Confucius yn paratoi athrawon ar gyfer y cwricwlwm newydd

10 Mehefin 2019

Mae grŵp o athrawon o Dde Cymru yn ehangu eu gorwelion trwy ddechrau gwersi Mandarin gyda Sefydliad Confucius Caerdydd.

Mae’r Cwrs Mandarin chwe wythnos i ddechreuwyr, sydd ar gael yn ddi-dâl, yn agored i holl athrawon ysgol gynradd ac uwchradd Cymru, ac mae’n rhedeg mewn tair ysgol wahanol, ysgol gynradd Millbrook yng Nghasnewydd, Ysgol Cwm Rhymni yng Nghaerffili, ac ysgol uwchradd Whitmore yn y Barri.

Mae’r cwrs, sy’n rhan o Brosiect Cymru Tsieina, yn ceisio cefnogi strategaeth Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru trwy roi datblygiad proffesiynol i’r gweithlu addysg trwy uwch-sgilio a darparu cyfleoedd DPP i athrawon.

Dywedodd Sam Rowland, athro o ysgol gynradd Pontnewydd yng Nghwmbrân, sy’n mynychu’r cwrs yn ysgol gynradd Millbrook, “Mae’r cwrs yn ddifyr iawn, ac mae’n wych rhoi cynnig ar iaith newydd a allai fod o gymorth pan gaiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno.”

Nod y cwricwlwm newydd, y mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno yn 2022, yw sicrhau bod holl ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol ‘yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r Byd’, ac mae ‘Ieithoedd Rhyngwladol’ wedi cael eu cynnwys fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Dywedodd Sioned Harold, Ymgynghorydd Dysgu Proffesiynol o’r Gwasanaeth Cyflawniad Addysg (EAS) yn Ne-ddwyrain Cymru, “Yn EAS, rydym ni’n ymroddedig, nid yn unig i hyrwyddo ieithoedd rhyngwladol a dysgu gydol oes, ond i roi ein geiriau ar waith.  Pan gododd cyfle i ddysgu Mandarin am ddim ar ôl ysgol mewn dwy o ystafelloedd dosbarth Confucius EAS, fe rois fy enw i lawr ar unwaith.  Mae gennym ni ‘Lăoshi’ (athro) amyneddgar a pharod i helpu, ac mae’r awr ddifyr, addysgiadol yn gwibio heibio’n llawer rhy gyflym!   Rwy’n gobeithio cael rhagor o ddosbarthiadau ar ôl hyn!  Xie xie Sefydliad Confucius a Phrifysgol Caerdydd!”

Dywedodd Rachel Andrews, Rheolwr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina, “Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o athrawon wedi manteisio ar y cyfle i gael gwersi Mandarin, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd eu sgiliau newydd a’u hyder wrth ddysgu iaith arall yn cael eu trosglwyddo i’w dosbarthiadau - yn enwedig o ystyried hyblygrwydd y cwricwlwm newydd.”

Wedi’r peilot, bwriad Sefydliad Confucius Caerdydd yw cynnig rhaglen dreigl o’r cyrsiau 6-wythnos, fel bod cynifer o athrawon â phosibl yn gallu ymuno.

Os ydych chi’n athro a fyddai’n hoffi cael rhagor o wybodaeth am gyrsiau sydd i ddod, cysylltwch â Rachel Andrews, Rheolwr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina.

Rhannu’r stori hon