Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr Cyfrifiadureg yn lleddfu deiseb i wahardd priodas plant

13 Mehefin 2019

Using social media algorithms

Cynigiodd Joshua Whyte, myfyriwr Cyfrifiadureg a Llysgennad STEM, strategaeth farchnata oedd yn defnyddio algorithmau cyfryngau cymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth o ddeiseb i wahardd priodas i blant yn Nigeria.

Yn ôl adroddiad UNICEF yn 2018, mae mwy nag un o bob tair merch yn Nigeria yn priodi tra’u bod yn dal yn blant, a chan fod 22 miliwn yn priodi cyn cyrraedd 18 oed, dyma un o’r cenhedloedd sydd â’r nifer uchaf o ferched yn priodi’n blant yn Affrica.

Sefydlodd y merched o Nigeria, Kudirat Abiola, 15, Temitayo Asuni, 15, a Susan Ubogu, 16, sefydliad nid-er-elw o’r enw ‘It's Never Your Fault’ gyda’r is-bennawd ‘Sefydliad nid-er-elw sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth yn y byd’. Dewiswyd priodasau plant yn ymgyrch gyntaf: mae #raisetheage yn galw ar lunwyr cyfreithiau i godi oed cydsyniad o 11 i 18 oed, newid maen nhw’n credu fyddai’n troseddoli priodasau plant yn Nigeria.

Daeth y merched i gysylltiad â Joshua Whyte, y myfyriwr o Brifysgol Caerdydd sy’n Llysgennad STEM mewn Cyfrifiadureg, i ofyn am ei help gyda’u hymgyrch. Lluniodd Joshua strategaeth farchnata sy’n manteisio ar algorithmau cyfryngau cymdeithasol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r ddeiseb. Mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn y prosiect, ac mae’r merched uwchradd a fu’n cysylltu ag ef wedi cael cyfweliad gan CNN

Mae’r ddeiseb ar change.org, sydd wedi’i chyfeirio at Lywodraeth Ffederal Nigeria, eisoes wedi crynhoi dros 150,000 o lofnodion, ac mae’n dal i ennill momentwm.

Dywedodd Dr Catherine Teehan, Swyddog Lleoliadau Caerdydd ar gyfer yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, “Mae’n wych gweld cyfrifiadureg yn cael ei defnyddio er lles cyffredinol, ac rwy’n eithriadol falch o’r hyn mae Joshua a’r tîm wedi’i gyflawni hyd yma.”

Esboniodd Joshua, “Dyma’n wir yw un o’m cyflawniadau pennaf.  Helpu gyda’r prosiect oedd uchafbwynt y flwyddyn i mi, a bydda i’n parhau i gefnogi lle bynnag y galla i”

Rhannu’r stori hon