Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddoniaeth Dinasyddion ar sail Lleoedd er Lles: Dealltwriaeth gysyniadol ac ymarferol o 'le' ar gyfer gwyddoniaeth a chymdeithas

7 Mehefin 2019

Mae Gwyddoniaeth Dinasyddion ar Sail Lleoedd (PBSC) yn faes sy'n dod i'r amlwg. Mae cryn ddiddordeb mewn dulliau sy'n seiliedig ar lleoedd ym maes Ecoleg a Gwyddorau Amgylcheddol a Gwyddorau Cymdeithasol.

Mae dulliau ar sail lleoedd yn werthfawr ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus effeithiol ym maes gwyddoniaeth ecolegol, ac wrth gefnogi hirhoedledd gweithgareddau gwyddoniaeth dinasyddiaeth sy'n berthnasol ar gyfer cynadleddwyr targed. Bydd y gynhadledd undydd hon yn gwahodd ymarferwyr ac academyddion o gyrff anllywodraethol/trydydd sector a phrifysgolion i ddangos a chynnig dealltwriaeth beirniadol o heriau gwyddoniaeth dinasyddiaeth ar sail lleoedd, a chynnig atebion i'r cwestiynau hynny.

Rydym yn gwahodd papurau o rwydweithiau rhyngddisgyblaethol. Mae ein prif siaradwyr yn meddu ar arbenigedd mewn materion rhyngwladol o ran gwyddoniaeth dinasyddiaeth ar sail lleoedd.

Diben y fformat yw cynnig trafodaeth fanwl a chynhwysfawr ynghylch gwahanol faterion.

Mae'r gynhadledd hon yn cael ei chefnogi gan BES CitSci SiG, y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Malaya, Kuala Lumpar.

Themâu allweddol

  • Theorïau cymdeithasol lleoedd a chysylltiadau gwyddoniaeth-natur
  • Cyd-gynhyrchu a gwyddoniaeth wedi'i harwain gan ddinasyddiaeth
  • Cyfiawnder amgylcheddol, yr amgylchedd a lles y gymuned
  • Gwyddoniaeth Dinasyddiaeth ar sail lleoedd, cymunedol neu eithafol
  • Polisi amgylcheddol a/neu llywodraethiant wedi'i lywio gan wyddoniaeth dinasyddiaeth
  • Y tu hwnt i effaith gwyddoniaeth: ailystyried gwyddoniaeth dinasyddiaeth

Cyflwyno crynodeb

Darllenwch y wybodaeth am yr alwad am bapurau. Gellir anfon cynigion o bapurau at sustainableplaces@caerdydd.ac.uk. Dyddiad cau 14 Mehefin 2019.

Ni ddylai crynodebau fod yn fwy na 500 gair, a byddant yn cael eu hadolygu'n ddienw ar ôl y dyddiad cau. Caiff cyflwynwyr wybod beth yw'r penderfyniad o fewn pythefnos i'r dyddiad cau.

Sylwer bod ambell le heb ei ariannu ar gael (gan gynnwys dau le rhyngwladol). Gweler gwefan BES i gael y manylion.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 17:00 (BST) 26 Gorffennaf 2019.

Rhannu’r stori hon