Ewch i’r prif gynnwys

Llwybrau at radd ym Mhrifysgol Caerdydd – Sesiynau cofrestru a gwybodaeth i ymwelwyr

10 Gorffennaf 2019

Liz Davies (BA Archaeology and Ancient History), with Paul Webster (pathway co-ordinator) and Jack Tenniswood (BA History)
Liz Davies (BA Archaeology and Ancient History), with Paul Webster (pathway co-ordinator) and Jack Tenniswood (BA History)

Holl lwybrau (ar wahân i'r Llwybr at Ofal Iechyd)

Pryd: Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019

Ble: Addysg Barhaus a Phroffesiynol, 21-23 Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4AG

12.00 - 14.00

a

17.00-19.00

Drwy gwblhau llwybr rhan-amser, mae llawer o ddysgwyr sy'n oedolion ac o gefndiroedd amrywiol wedi mynd ymlaen i astudio gradd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ein llwybrau yn berffaith ar gyfer unigolion sydd heb dderbyn addysg ffurfiol ers peth amser, a bydd ein tiwtoriaid cyfeillgar yn darparu cymorth wrth astudio a chyngor ar sut i wneud cais i'r Brifysgol.  Ar gyfer y digwyddiad hwn, rydym yn arddangos y llwybrau canlynol:

  • Cyfrifeg
  • Rheoli Busnes
  • Saesneg Iaith, Llenyddiaeth neu Athroniaeth (Naratifau Mewnol)
  • Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol
  • Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (Archwilio'r Gorffennol)
  • Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg)
  • Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Cyfieithu
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Ffarmacoleg Feddygol
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol

Rydym hefyd yn darparu llwybr at Ofal Iechyd gan gynnwys Nyrsio Oedolion, Nyrsio Iechyd Meddwl, Nyrsio Pediatrig, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ymarfer Gofal Llawdriniaethol, Radioleg, Radiotherapi a Ffisiotherapi.

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio'r llwybr Gofal Iechyd, ebostiwch pathways@caerdydd.ac.uk.  NID yw'r digwyddiad hwn yn cynnwys y llwybr yma.

Nid oes angen bod â chymwysterau blaenorol ar gyfer astududio’r rhan fwyaf o lwybrau.  Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion ynghylch pob llwybr.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, nid oes angen cofrestru ymlaen llaw, dim ond dod draw ar y diwrnod.

Rhannu’r stori hon