Ewch i’r prif gynnwys

Trigolion yn cael eu targedu gan bobl sy’n esgus codi arian

6 Mehefin 2019

Row of terrace houses

Mae trigolion yn cael eu hannog i beidio a rhoi arian i bobl sy’n curo drws ac yn honni eu bod yn codi arian ar gyfer ymchwil prifysgol.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi rhybudd yn sgîl adroddiadau bod cartrefi wedi cael eu targedu gan bobl yn esgus codi arian, gan ofyn am gyfraniadau ar gyfer ariannu ymchwil prifysgol.

Nid yw’r Brifysgol yn awdurdodi codi arian o ddrws i ddrws ac mae’n annog pobl, yn enwedig trigolion hŷn a’r rhai sy’n agored i niwed, i fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n curo ar eu drws yn gofyn am arian.

Mae Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr, T J Rawlinson, yn mynnu, “Nid yw Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian o ddrws i ddrws, neu’n awdurdodi hynny, ar unrhyw adeg.”

“Roedd yn bryder mawr i ni pan wnaeth cwpl gysylltu â ni i roi gwybod bod rhywun wedi curo ar eu drws gan ddweud eu bod yn codi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd.

“Rydym wedi rhoi gwybod i Action Fraud am y digwyddiad hwn ac rydym eisiau gwneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosibl yn gwybod mai twyll yw hwn.

Er bod y Brifysgol yn gobeithio mai rhywbeth a ddigwyddodd unwaith yn unig oedd hwn, mae’n awyddus i wneud yn siŵr nad yw trigolion eraill yn cael eu temtio i roi arian.

Ychwanegodd TJ: “Mae ein cyngor yn syml: peidiwch â rhoi arian i unrhyw un sy'n curo ar eich drws yn honni eu bod yn codi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd. Maen nhw’n ceisio eich twyllo.

“Ni fydd unrhyw arian a roddir o fudd i’n myfyrwyr, na’n hymchwil arloesol. Os oes unrhyw un wedi cael profiad tebyg, dylent gysylltu neu sôn wrth Action Fraud amdano.”

Mae Prifysgol Caerdydd yn elusen gofrestredig. Mae rhoddion yn helpu’r Brifysgol ariannu ysgoloriaethau a bwrsariaethau, adeiladu cyfleusterau newydd a chefnogi ymchwil sy’n newid bywyd.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn cefnogi Prifysgol Caerdydd, ewch i wefan y Brifysgol www.cardiff.ac.uk/donate neu cysylltwch â Thîm Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr y Brifysgol drwy ffonio 02920 876473 i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.