Ewch i’r prif gynnwys

Prif wobr i gyn-fyfyriwr am nofela

4 Mehefin 2019

New Welsh Writing winners

Un o raddedigion Caerdydd yn ennill Gwobr Ysgrifennu Newydd o Gymru

Llwyddodd y cyn-fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg Jessica George i gipio'r wobr am y nofela ddystopaidd orau yng Ngwobrau Ysgrifennu Newydd o Gymru 2019.

Enillodd Jessica'r wobr am The Word o blith rhestr fer o dri gwaith yn y gwobrau a drefnir gan New Welsh Review ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth.

Daw Jessica'n wreiddiol o Bont-y-pŵl a bu'n astudio Llenyddiaeth Saesneg i lefel gradd Meistr a PhD yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Enillwyd Gwobr Rheidol am yr ysgrifennu gorau ar thema neu leoliad Cymreig gan Peter Goulding am On Slate.

Cyhoeddwyd Gwobrau Ysgrifennu Newydd o Gymru 2019 yng Ngŵyl y Gelli ar 24 Mai.

Mae'r enillwyr yn derbyn £1,000 fel blaendal yn erbyn e-gyhoeddi gan New Welsh Review dan eu gwasgnod New Welsh Rarebyte a beirniadaeth adeiladol yr un gan yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes o’r tŷ cyhoeddi Curtis Brown.

Mae'r chwe awdur ar y rhestr fer hefyd yn derbyn tanysgrifiad o flwyddyn i New Welsh Review.

Dywedodd y Beirniad Gwen Davies:

'Yng nghanol ei nofela uchelgeisiol The Word - sy'n archwilio syniadau am bropaganda, cyfathrebu a chymhelliant - mae JL George yn llwyddo i osod stori dyner a difyr am gyfeillgarwch rhwng dau fachgen yn eu harddegau sy'n rhedeg i ffwrdd.'

A hithau bellach yn gweithio ar nofel ddystopaidd gyda chefnogaeth grant bwrsariaeth gan Lenyddiaeth Cymru, roedd Jessica wrth ei bodd:

"Mae cael fy nghydnabod gan y Gwobrau Ysgrifennu Newydd o Gymru yn hwb rhyfeddol i fy hyder fel awdur, ac rwyf i'n edrych ymlaen at weld The Word yn cael ei gyhoeddi'n ddigidol a'i rannu gyda'r byd.”

Gwyliwch ragflas ffilmig o The Word a gynhyrchwyd gan New Welsh Review.

Erbyn hyn mae Gwobrau Ysgrifennu Newydd o Gymru yn eu pumed flwyddyn, ac fe'u sefydlwyd i hyrwyddo'r ysgrifennu byr gorau yn Saesneg. Mae'r gwobrau ar agor i bob awdur yn y DU ac Iwerddon a'r rheini sy'n byw dramor sydd wedi'u haddysgu yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon