Ewch i’r prif gynnwys

Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol yn addysgu sgiliau achub bywydau i’r cyhoedd

29 Mai 2019

Ddydd Mawrth 14 Mai 2019, bu Prifysgol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cydweithio er mwyn helpu i ddathlu diwrnod Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol (ODP) drwy gynnal ein her CPR gyntaf.

Cynhaliwyd y diwrnod i gefnogi’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw i fod yn fwy cyfarwydd â CPR drwy brofi eu sgiliau gyda chyfarpar arbenigol yr Ysgol, yn union fel myfyrwyr Ymarfer Gofal Llawdriniaethol pan maent yn dysgu am ofal critigol.

Ystyr CPR yw adfywio cardio-pwlmonaidd (cardiopulmonary resuscitation). Mae’r weithred hon yn helpu’r rhai sydd wedi dioddef ataliad sydyn ar y galon (SCA). Y sgiliau pwysicaf yw cywasgu’r frest i bwmpio gwaed o amgylch y corff, ac achub anadl y claf er mwyn rhoi ocsigen. Mae’r Cyngor Adfywio (DU) yn datgan bod llai nag 1 o bob 10 o bobl yn y DU yn goroesi ataliad y galon sy’n digwydd y tu allan i ysbyty. Gall y tebygolrwydd o oroesi dreblu os yw rhywun y mae eu calon wedi atal yn cael CPR a diffibriliad cynnar.

Roedd y diwrnod yn llwyddiannus a chafodd y cyhoedd gyfle i ddysgu ac ymarfer amrywiaeth o weithgareddau achub bywyd, fel:

  • CPR a rhoi cynnig ar gywasgu’r frest;
  • Bwrw golwg ar ddiffibriliwr a dysgu sut y dylai weithio pan mae ei angen;
  • Ymarfer â chyfarpar llawdriniaethol laparosgopig;
  • Rhoi cynnig ar Symudiad Heimlich.

Cymerodd staff a myfyrwyr Ymarferwyr yr Adran Lawdrin oedd yn cefnogi ar y diwrnod ran yn eu her eu hunain, sef ceisio pum awr o gywasgu’r frest. Llwyddon nhw i gyflawni’r 5 awr a gorffennon nhw gyda 34,634 o gywasgiadau’r frest mewn un rownd.

Meddai Craig Griffiths, Darlithydd Ymarfer Gofal Llawdriniaethol ‘roedd yn wych gallu ymgymryd â’r her hon mewn gosodiad mor odidog â’r amgueddfa. Diben y diwrnod oedd dathlu Ymarferwyr Gofal Llawdriniaethol ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rwy’n hynod falch o aelodau eraill y staff, ac yn bennaf, o’n myfyrwyr sydd wedi ein cynrychioli mor dda heddiw wrth addysgu aelodau o’r cyhoedd i achub bywydau.

I ddysgu mwy am Ymarfer Gofal Llawdriniaethol, ewch i’n gwefan.

Rhannu’r stori hon