Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Fferylliaeth yn dathlu Diwrnod Ymchwil

26 Mai 2019

Research Day
L-R: Mark Gumbleton, Arwyn Jones, Olivia Ogle, Genevieve McClusky, Andrew Mason, Alesha Wale Ahmad Moukachar

Ar 1 Mai, cynhaliodd Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd ei Diwrnod Ymchwil blynyddol, lle mae myfyrwyr PhD yn cyflwyno eu canfyddiadau i’r Ysgol drwy ddarlithoedd a chyflwyniadau poster. Roedd y safon eleni’n eithriadol o uchel; arddangosfa gyffrous o ehangder y gwaith a gynhelir yn Adeilad Redwood, o fynd i’r afael â gorddefnyddio gwrthfiotigau yng Ngwlad Thai, i wella smentau asgwrn, i dechneg ar gyfer ymosod ar fôn-gelloedd canser, i ddulliau atal proteinau penodol sy’n gysylltiedig â thiwmorau’r ymennydd, a llawer mwy.

Drwy gydol y diwrnod, roedd panel o arbenigwyr o’r Ysgol yn beirniadu’r darlithoedd a’r cyflwyniadau, a dyfarnodd y panel ddwy wobr am y posteri gorau, a dwy wobr i’r darlithoedd cryfaf yn eu barn nhw. Ar ben y rhain roedd gwobr y Gyfadran Leyg, a enillodd Andrew Mason eleni am ei waith ynghylch sianeli ïonau.

Dyfarnwyd gwobrau’r darlithoedd gorau i Ahmad Moukachar ac Olivia Ogle. Mae Ahmad yn gweithio ar brosiect sy’n ymchwilio i argraffu meinweoedd y croen yn 3D er mwyn deall datblygiad canser y croen yn well. Mae Olivia’n ymchwilio i rôl cludo sinc mewn celloedd, a sut gall y wybodaeth hon gynnig triniaeth newydd ar gyfer canser yn y dyfodol.

Yn y sesiynau poster, enillodd Genevieve McClusky wobr am ei harchwiliad i sut mae rhaeadrau proteolytig y gwaed yn gydgysylltiedig. Enillodd Alesha Wale y wobr arall am ei phoster. Mae hi’n gweithio ar wella profiad y cleifion sy’n defnyddio meddyginiaethau ‘arbennig’ didrwydded.

Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Mark Gumbleton, “Mae’n fraint i’r Ysgol Fferylliaeth chwarae rhan fach o yng ngyrfaoedd cyffrous iawn y bobl ifanc hyn.”

Rhannu’r stori hon