Ewch i’r prif gynnwys

Mynd â bydwreigiaeth dros y môr

24 Mai 2019

Merch yn dal glob
I ble yr ewch chi ar antur?

Fe ofynnon ni i’n myfyriwr bydwreigiaeth, Natalie Dibsdale, sut cafodd hi ei hariannu i deithio i Namibia yn ystod yr haf sy’n dod er mwyn ymgymryd â lleoliad tramor yn Namibia.

Beth oedd eich cymhelliad dros gyflwyno cais?

oeddwn i am gyflwyno cais nid yn unig oherwydd y byddai cefnogaeth ariannol gan Iolanthe yn gwireddu fy lleoliad tramor, ond hefyd oherwydd eu bod nhw’n sefydliad gwych i fod yn gysylltiedig â nhw.  Maen nhw’n cefnogi bydwragedd ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, ac yn wir yn meithrin arloesedd, gan gefnogi bydwragedd i ddatblygu syniadau a phrosiectau er mwyn gwella gofal a chefnogaeth i fenywod a babanod, yn ogystal â phrosiectau ymchwil ac arweinyddiaeth.  Mae hefyd yn chwa o awyr iach i fyfyriwr Bydwreigiaeth gael cyfle fel hyn! Mae’n teimlo’n sefydliad cynhwysol iawn.

Sut cyflwynoch chi gais?


Cyflwynais i gais ar-lein trwy wefan Iolanthe. Roedd yn ddigon syml, ond mae angen llawer o wybodaeth am eich cynlluniau lleoliad, felly mae rhaid i chi wneud cynlluniau eitha pendant, a chreu cysylltiadau â’r lleoliad tramor er mwyn darparu’r wybodaeth angenrheidiol.  Mae blaengynllunio yn allweddol!

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer Namibia?


Rwy’n mynd gyda thri myfyriwr bydwreigiaeth arall o’m carfan, a byddwn ni’n arsylwi ymarfer bydwreigiaeth yn Ysbyty Canolog Windhoek fel rhan o bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia.  Maen nhw’n anfon myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth i Gaerdydd, ac mae myfyrwyr bydwreigiaeth wedi bod i Namibia o’r blaen mewn trefniant cyfnewid traws-ddiwylliannol rheolaidd, a drefnwyd trwy’r Phoenix Project fel rhan o raglen Cymru dros Affrica Llywodraeth Cymru.  

Rydyn ni’n mynd am 4 wythnos, ac rydw i’n wir yn gobeithio cael sgiliau a phrofiad o’r lleoliad yma mewn ardal lle mae heriau mor wahanol ym maes gofal mamolaeth, er mwyn llywio ac ategu ein gofal am fenywod a’u babanod a’u teuluoedd yn ôl yng Nghaerdydd.


Pa gyngor byddech chi’n ei roi i eraill sy’n ystyried gwneud cais am yr ysgoloriaeth?


Ewch amdani!  Cofiwch ganiatáu digon o amser, achos bydd rhaid i chi gael geirdaon gan ein tiwtoriaid a llawer o wybodaeth am eich cynlluniau lleoliad. Hefyd, gofalwch wneud peth ymchwil i gyd-destun bydwreigiaeth yn ardal eich lleoliad tramor, a chynnwys rhai amcanion dysgu ar gyfer eich lleoliad.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn lleoliad tramor, gallwch chi gysylltu â ni ar HCAREinternationalmobility@cardiff.ac.uk i ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi.

Rhannu’r stori hon