Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno hyfforddiant proffesiynol ar gyfer Cloddfeydd Mount Isa

24 Mai 2019

Mount Isa Mines workshop

Cynhaliodd yr Athro Tom Blenkinsop a’r myfyriwr ymchwil ôl-raddedig Ben Williams weithdy ar gyfer daearegwyr o Gloddfeydd Mount Isa yn Awstralia.

Mount Isa yw cartref ail fwynglawdd mwyaf Awstralia sy’n creu copr yn ogystal ag un o’r gwaddodion arian-plwm-sinc mwyaf yn y byd. Ystyrir yr ardal o gannoedd o gilometrau sgwâr sy’n amgylchynu’r fwynglawdd yn lleoliad arfaethedig ar gyfer gwaddolion copr, a gellir eu cyfuno ag elfennau gwerthfawr eraill megis aur a haearn.

Yn gynharach eleni, bu’r Athro Blenkinsop ac Alex Brown (Uwch-ddaearegwr o Gloddfeydd Mount Isa), sydd wedi cael sawl blwyddyn o brofiad yn gwneud gwaith maes yn y rhanbarth, yn arwain grŵp o saith o ddaearegwyr o Gloddfeydd Mount Isa ar gwrs maes mewn rhan arbennig o’r diffeithdir i ddysgu uwch-dechnegau o edrych ar greigiau wedi’u mwyneiddio.

Dilynwyd y cwrs maes gan weithdy a drefnwyd gan Pat Ila’Ava yn Mount Isa a’i gyflwyno gan Ben, myfyriwr PhD Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Blenkinsop. Trafodwyd manylion y rheolyddion posibl ar gyrff mwynau Isa gydag 14 o staff daeareg a mwyngloddio Cloddfa Mount Isa.

Nod astudiaeth PhD Ben yw deall ffurfiad cyrff mwynau copr, ac mae’n manteisio ar oruchwyliaeth gan gynfyfyriwr Daeareg Fforio ac Adnoddau Prifysgol Caerdydd, Richard Lilly, sydd bellach yn gymrawd ymchwil sy’n gweithio yng Nghloddfeydd Mount Isa ym Mhrifysgol Adelaide.

Bydd rhywfaint o ddeunydd y gweithdy yn cael ei gyflwyno mewn cwrs mynediad agored rhad ac am ddim ar-lein o dan y teitl “Daeareg Strwythurol ar gyfer y Diwydiant Archwilio a Mwyngloddio” a ddatblygwyd gan yr Athro Blenkinsop i gael ei lansio ar blatfform FutureLearn nes ymlaen eleni.

Rhannu’r stori hon