Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Sikhiaeth

14 Mai 2019

Sikh Council of Wales

Cymru’n lansio cyfres o ddigwyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig i nodi 550 mlwyddiant geni’r Guru sylfaenu

Y mis yma mae dathliadau cenedlaethol i nodi geni’r guru a sylfaenodd Sikhiaeth yn cychwyn yng Nghymru.

Mae’r gyfres o ddigwyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig yn rhan o ddigwyddiadau ar draws y byd i nodi’r achlysur ffydd pwysig hwn i Sikhiaid.

Ddydd Sul 19 Mai mae Conswl Cyffredinol India yng Nghymru a Chyngor Sikhiaeth Cymru yn dod at ei gilydd i gynnal dathliadau 550 mlwyddiant geni Guru Nanak Dev Ji ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifddinas Cymru.

Mae’r dathliadau, sy’n agored i bawb, yn dathlu bywyd ac etifeddiaeth sylfaenydd Sikhiaeth, Guru Nānakdevji a 550 mlynedd o’r ffydd fyd-eang, gyda phlant o demlau Sikh ledled Cymru yn perfformio Kirtan (siantio), Kavita (barddoniaeth Hindi) a Sakhi (adrodd hanes Sikhiaeth).

Bydd aelodau uchel eu parch o bob ffydd yn mynychu’r digwyddiad, ochr yn ochr ag Uchel Gomisiynydd India, Ei Ardderchowgrwydd Ruchi Gunshyam, Pennaeth Cyngor Sikhiaeth Cymru, Gurmit Singh Randhawa MBE, a Chonswl Anrhydeddus India, y Cadfridog Raj Aggarwal OBE.

Heddiw Sikhiaeth yw’r bumed grefydd fwyaf yn y byd, gyda 25 miliwn o bobl yn ei hymarfer, gan gynnwys 432,000 yn y Deyrnas Unedig - 0.7% o boblogaeth y Deyrnas Unedig - a bron 3,000 o Sikhiaid yng Nghymru.

Mae bywydau Sikhiaid yn troi o gwmpas eu perthynas â Duw, a bod yn rhan o’r gymuned Sikh. Mae’r ddelfryd Sikh yn cyfuno gweithredu a chredu.  I fyw bywyd da, dylai person wneud gweithredoedd da yn ogystal â myfyrio ar Dduw. Mae Sikhiaid yn ymarfer tair dyletswydd: Nam japna - Cadw Duw mewn cof bob amser, Kirt Karna - Ennill bywoliaeth onest a Vand Chhakn – rhoi i elusen a gofalu am eraill.

Dywedodd Raj Aggarwal, y diplomydd o India: “Mae’r diaspora yng Nghymru yn gweithio’n galed ac yn ffynnu, ac maen nhw’n ased aruthrol i’r wlad. Mae’n wych cael rhannu achlysur mor llawen yn ein cymdeithas ryfeddol o amrywiol a chynhwysol.”

Ceir anerchiad allweddol gan yr Athro Sanskrit a Chrefyddau India, James Hegarty.  Dywedodd Pennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd:

"Mae traddodiad Sikhiaeth yn gyfoethog ac yn hyfyw, ac mae etifeddiaeth ysbrydol a barddonol Guru Nānakdevji yn deilwng i’w dathlu gan Sikhiaid ac eraill fel ei gilydd.  Mae’n gyffro ac yn anrhydedd cael bod yn rhan o ddigwyddiad mor wych."

Cynhelir dathliadau 550 mlwyddiant Sikhiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Sul 19 Mai (5pm-8pm) yn Adeilad Julian Hodge.  Mae croeso i bawb ac mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd.

Rhannu’r stori hon