Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Ysgol Peirianneg yn bartner mewn prosiect cynaliadwyedd ynni a dŵr gwerth €3.1M

13 Mai 2019

An image of a large wave

Yr Ysgol Peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r unig bartner o’r DU yn y prosiect EERES4WATER (Hyrwyddo Effeithiolrwydd Adnoddau Cysylltiadau Ynni-Dŵr drwy Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni), sydd werth€3.1M. Mae 11 sefydliad o bum gwlad yn ffurfio’r consortiwm. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu drwy Raglen Atlantig Interreg ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â chysylltiadau dŵr-ynni ac optimeiddio rheolaeth ynni yn y cylch dŵr. Cynhaliodd y consortiwm ei gyfarfod cyntaf ar 11 Ebrill.

Mae Ardal Atlantig INTERREG yn rhaglen a ariennir gan Ewrop sy’n hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol ymysg 36 rhanbarth Atlantig mewn pum gwlad Ewropeaidd. Mae’n cefnogi cydweithrediad yn y meysydd Arloesedd a Chystadleurwydd, Effeithlonrwydd Adnoddau, Rheoli Risgiau Tiriogaethol, Bioamrywiaeth ac Asedau Naturiol a Diwylliannol.

Mae yna bum partner yn Sbaen; Corfforaeth Dechnegol Andalusia (CTA), Prifysgol Seville, Y Ganolfan Ymchwil Ynni, yr Amgylchedd a Thechnoleg (Ciemat), Sefydliad Technolegol Ynysoedd y Caneri (ITC) a Brinergy Tech. Mae yna ddau bartner yn Iwerddon; Coleg Prifysgol Cork (UCC) a Resolute Marine Limited (RML), a’r Asiantaeth Ranbarthol dros Ynni ac Amgylchedd y Mewndir (ENERAREA) a Phrifysgol Évora yw’r ddau bartner ym Mhortiwgal. Y partner Ffrengig yw Campus E.S.P.R.I.T. Industries.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys chwe sefydliad arall sy’n cymryd rhan yn y prosiect fel partneriaid cyswllt, gan gynnwys Dŵr Cymru Cyfyngedig.

Mae’r rhanbarthau gwahanol hyn yn rhannu problemau tebyg o ran rhyngddibyniaeth ynni-dŵr uchel, sy’n gofyn am fframwaith gwleidyddol penodol wedi’i alinio â chyfarwyddebau Ewropeaidd a chydweithredu ar ddatblygiadau technolegol.

Bwriad y prosiect hwn yw gweithredu arloesedd technolegol a chyfleu polisïau cyffredin - ar lefelau sefydliadol, technegol a chymdeithasol - i gynyddu effeithlonrwydd ynni a’r defnydd o ffynonellau adnewyddadwy mewn prosesau ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cylch dŵr hanfodol, drwy gynnwys y sector cyhoeddus, prifysgolion, canolfannau ymchwil, BBaChau a chymdeithasau busnes o’r rhanbarthau cyfranogol a thu hwnt.

Nod cyffredinol y prosiect yw troi’r her hon yn gyfle a rhoi’r rhanbarth Atlantig ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd ynni a dŵr; o ran effeithlonrwydd ynni a chapasiti cynhyrchu ynni glân.

Dywedodd Dr Reza Ahmadian, y prif ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r partneriaid i gyd yn rhannu heriau tebyg o dan adnoddau dŵr ac ynni, a bydd y prosiect hwn yn dod â sawl rhanbarth ynghyd gan ein galluogi i gydweithio i ddod o hyd i atebion i broblemau cyffredin.”

Rhannu’r stori hon