Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn lansio Canolfan Hyfforddiant Ddoethurol arloesol newydd

13 Mai 2019

Researcher working in the CMP Labs

Ynghyd â’n prifysgolion partner, Sheffield, Manceinion a Choleg Prifysgol Llundain, a’n partneriaid diwydiannol, rydym wedi lansio Canolfan EPSRC newydd a chyffrous ar gyfer Hyfforddiant Ddoethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludydd Cyfansawdd.

Prifysgol Caerdydd yw cartref y ganolfan newydd, a bydd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau PhD EPSRC wedi’u ariannu’n llawn am bedair blynedd i’r myfyrwyr a ddewiswyd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd ag MSc yn ystod eu blwyddyn gyntaf, a dyfernir cymhwyster MSc iddynt os byddent yn cwblhau’r flwyddyn yn foddhaol, cyn symud ymlaen i astudio ar gyfer eu PhD, naill ai yng Nghaerdydd, neu yn un o’n prifysgolion partner.

Nod ein Canolfan Hyfforddiant Ddoethurol yw rhoi gwyddonwyr a pheirianwyr sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i arwain ymchwil a gweithgynhyrchu yn y diwydiant cyfansawdd lled-ddargludydd. Ein nod yw rhoi hwb i'r gadwyn gyflenwi gyfan, o weithgynhyrchu deunyddiau a dyfeisiau, i'r systemau a'r cynhyrchion sy'n eu defnyddio.

Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n datblygu yn ne Cymru yn disgwyl creu dros 5,000 o swyddi yn y blynyddoedd nesaf. Mae Prifysgol Caerdydd a'i phrifysgolion partner i gyd yn sefydliadau ymchwil blaengar yn y maes hwn ac mae ganddynt yr arbenigedd a'r cyfleusterau i ddarparu hyfforddiant heriol deallusol sydd ei angen yn y diwydiant.

Dywedodd yr Athro Peter Smowton: “Dyma gyfle gwych i raddedigion gael yr hyfforddiant sydd ei hangen arnynt i fynd mewn i ddiwydiant cyffrous, sy'n newid yn gyflym ac sydd angen gwyddonwyr a pheirianwyr talentog. Nid yn unig y byddant yn ennill sgiliau ymchwil defnyddiol, ond byddent yn gallu dysgu am y diwydiant yn uniongyrchol gan ein cwmnïau partner.”

Rhagor o wybodaeth am ein Canolfan Hyfforddiant Ddoethurol arloesol newydd a sut i wneud cais am ysgoloriaeth.

Rhannu’r stori hon