The Blue Tent
7 Mai 2019
Llyfr diweddaraf Pennaeth Ysgrifennu Creadigol yn lansio yng Nghymru
Mae Pennaeth Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol, yr Athro Richard Gwyn, yn lansio ei lyfr diweddaraf yn y brifddinas y mis hwn.
Wedi ei ddisgrifio gan yr ysgrifennwr, beirniad ac academydd Prydeinig, Patrick McGuinness, fel ‘stori freuddwydiol, wedi ei hysgrifennu’n gain gydag islais cythryblus, yn nhraddodiad gorau ffuglen freuddwyd fodern’, The Blue Tent yw nofel ddiweddaraf yr awdur arobryn.
Mewn tŷ unig ym mherfeddion y Mynyddoedd Duon yn ne Cymru, mae dyn yn treulio nosweithiau ei anhunedd wedi ei gyfareddu gan destunau hynafol a adawyd iddo gan fodryb ryfedd. Pan ymddengys pabell las yn y cae ar ben ei ardd, caiff ei fywyd unig ei droi ben i waered. Ond pwy sydd biau’r babell? A hefyd, wrth i breswylwyr y babell ddechrau dod i’r amlwg, stori pwy a adroddir ganddynt?
Wrth i’w fywyd ddatod, mae’r dyn yn dechrau cwestiynu p’un a ydyw’n drefnydd neu ddioddefydd ei brofiadau ei hunan. A yw’r storïau sy’n tywys a llywio ei fywyd yn real, neu ddim ond atsain bywydau eraill, posib?
Y bardd, nofelydd, ysgrifwr a chyfieithydd arobryn Richard Gwyn yw sylfaenydd Fiction Fiesta.
Ochr yn ochr â’i hunan-gofiant The Vagabond’s Breakfast, mae ei lyfrau eraill cyn cynnwys y nofelau The Colour of a Dog Running Away a Deep Hanging Out, y casgliadau barddoniaeth Walking on Bones, Being in Water, Sad Giraffe Café a Stowaway: A Levantine Adventure. Mae wedi dethol a golygu dwy flodeugerdd fawr o farddoniaeth gyfoes: The Pterodactyl’s Wing (2003) a The Other Tiger: Recent Poetry from Latin America (2016).
Ynghylch ei lyfr diweddaraf, dywed Richard: ‘Os oes rhagflaenwyr i’r gyfrol, gellid ystyried Pedro Paramo ganJuan Rulfo, neu The Invention of Morel gan Bioy Casares - hyd yn oed Turn of the Screw gan Henry James.’
Wedi ei gyhoeddi gan Parthian Books, lansir The Blue Tent yng nghanol Caerdydd ar 15 Mai am 7.30pm yn nhafarn The Roath Park gyda sesiwn holi ac ateb gyda’r awdur.