Ewch i’r prif gynnwys

Rhagor o Gydnabyddiaeth i Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd

2 Mai 2019

Author Tyler Keevil

Awdur gwobrwyedig ar restr fer Gwobr Stori Fer y Gymanwlad

Gosodwyd stori fer y darlithydd Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd, Tyler Keevil, Amid the Winds, ar y rhestr fer ryngwladol gref a ddewiswyd o blith dros 5,000 o geisiadau.

Dyma wythfed flwyddyn Gwobr Stori Fer y Gymanwlad, a ddyfernir yn flynyddol am y darn gorau o ffuglen fer nad yw wedi'i gyhoeddi o blith y 50 o wledydd yn y Gymanwlad.

Caiff 16 o genhedloedd eu cynrychioli ar restr fer 2019 o 21 stori, gyda phum cenedl - Barbados, Cyprus, Malaysia, Tanzania a Zambia - yn ymddangos am y tro cyntaf.

Mae’r awdur a’r darlithydd a anwyd yng Nghanada wedi ennill Gwobr y Bobl ddwywaith am Lyfr y Flwyddyn yng Nghymru, a hynny am Fireball a’r antur deithiol epig The Drive, ei ddwy nofel gyntaf.

Cyn hynny, enillodd Wobr Taith Ymddiriedolaeth Awduron Canada/McClelland a Stewart am Sealskin, o’i gasgliad byr cyntaf o ffuglen, Burrard Inlet.

Wrth glywed y newyddion, dywedodd Tyler:

"Mae'n wefreiddiol cael bod ar y rhestr fer.  Mae'r straeon eraill yn swnio'n wych ac mae ehangder ac ystod y gweithiau'n ysbrydoli - rwy'n teimlo'n lwcus bod fy stori wedi'i dewis yn eu plith."

Dywedodd Cadeirydd y  Beirniaid, y nofelydd, dramodydd ac ysgrifwr Caryl Phillips:

"Mae bywiogrwydd a phwysigrwydd ffurf y stori fer yn amlwg yn y rhestr fer nodedig hon o straeon o bedwar ban byd. Mae'r awduron hyn wedi meiddio dychmygu bywydau amrywiaeth rhyfeddol o eang o gymeriadau ac mae eu straeon yn trafod sefyllfaoedd sydd yn rhanbarthol yn ogystal ag yn fyd-eang."

Mae Gwobr Stori Fer y Gymanwlad yn wobr lenyddol gymharol newydd sy’n cynnig cyfle i ddarllen a meddwl ar draws ffiniau, gan anelu at gysylltu dychymyg pobl o bob rhan o'r byd. Caiff enillydd 2019 ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Daw'r rhestr fer hon yn yr un wythnos ag y gosodwyd y darlithydd Ysgrifennu Creadigol Ailhbe Darcy ar restr fer Gwobr Barddoniaeth Pigott gyda Insistence. Y wobr hon, sydd yn ei chweched flwyddyn, yw'r fwyaf am gasgliad o farddoniaeth gan fardd Gwyddelig, ac fe'i cyhoeddir ar 29 Mai.

Bu Prifysgol Caerdydd yn arloesi gydag addysgu Ysgrifennu Creadigol yn y DU ac mae'n parhau i gynnig graddau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Rhannu’r stori hon