Ewch i’r prif gynnwys

Darllenydd mewn Dulliau Cyfrifiadurol yn cael ei gydnabod gan ei gyn-Brifysgol

23 Ebrill 2019

Dr Wassim Jabi receives alumni award

Mae Dr Wassim Jabi, Darllenydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi derbyn Gwobr i Gynfyfyriwr Nodedig 2019 gan ei gyn-Brifysgol, Prifysgol Americanaidd Beirut (AUB).

Mae gwobrau AUB yn anrhydeddu llwyddiannau cynfyfyrwyr yn eu meysydd proffesiynol ac sydd wedi dod â rhagoriaeth arbennig i’w hunain, eu sefydliadau, credyd i’r Brifysgol yn Beirut, a budd rhagorol i’w cymunedau.

Cafodd Dr Jabi ei BArch o Brifysgol Americaidd Beirut, a’i MArch a PHD o Brifysgol Michigan. Ar hyn o bryd mae’n arwain y cwrs MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, sy’n rhoi sylw i’r angen am weithwyr proffesiynol creadigol sydd â’r gallu i ddylunio a chymhwyso offer datblygu meddalwedd personol i ddatrys problemau dylunio unigryw.

Mae wedi cyhoeddi’n eang ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys dylunio paramedrig a chynhyrchiol, rôl goleuni mewn pensaernïaeth, ac efelychu perfformiad adeiladu. Yn benodol, defnyddio topoleg anfaniffold, y defnydd o offer digidol wrth greu a chynrychiolaeth o ofod pensaernïol, ymchwiliadau dylunio paramedrig, efelychu perfformiad adeiladau, roboteg a chreu. Mae hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol International Journal of Architectural Computing (IJAC).

Trydarodd Dr Jabi  “Rwy’n falch iawn ac wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis i dderbyn Gwobr Cynfyfyriwr Nodedig 2019 gan fy nghyn-Brifysgol, Prifysgol Americanaidd Beirut. Byddaf yn derbyn y wobr yng Nghynhadledd IDEAS yn Beirut, 17-18 Ebrill 2019.”

Rhannu’r stori hon