Ewch i’r prif gynnwys

Gweithgaredd ar gyfer y digartref

17 Ebrill 2019

Activity for the homeless

Mae grŵp o fyfyrwyr ffisiotherapi Prifysgol Caerdydd yn annog gweithgareddau iach ar gyfer pobl ddigartref neu sydd mewn sefyllfa ansefydlog o ran llety yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae ACTAV8 yn fenter sydd wedi’u hwyluso gan fyfyrwyr ffisiotherapi. Dyma’r unig grŵp cerdded ac ymarfer corff yn y DU sy’n cael ei gynnal gan fyfyrwyr ar gyfer y gymuned ddigartref.

Yn wreiddiol, cafodd y syniad ei greu fel prosiect ymchwil gan Dr Rebecca Hemming, Darlithydd Ffisiotherapi. Yn sgîl llwyddiant y prosiect ymchwil, aeth ati i annog myfyrwyr ffisiotherapi i gymryd rhan yn y cyfle.

Mae’r prosiect sydd nawr yn cael ei adnabod fel ACTAV8 yn cynnal teithiau cerdded misol o’r Ganolfan TAV i Gaerdydd. Mae’r myfyrwyr hefyd wedi sefydlu eu dosbarth ymarfer corff cyntaf. Mae hon yn fenter hollbwysig ar gyfer hyrwyddo ffyrdd iach o fyw o fewn y gymuned, yn ogystal â darparu man cymdeithasol a rhoi rhywbeth i’w wneud i ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod eu hwythnos.

Dywedodd Megan Stansfield, myfyriwr ffisiotherapi a gwirfoddolwr ACTAV8: ‘Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i newid y grŵp hwn o fod yn brosiect ymchwil 6 wythnos o hyd, i fod yn weithgaredd grŵp rheolaidd. Roeddwn am gymryd rhan i wneud gwahaniaeth i gymdeithas ehangach Caerdydd. Teimlais ei bod yn fenter wych i gymryd rhan ynddi a gwneud rhywbeth i helpu eraill’

Mae’n wych gwneud rhywbeth mor rhagweithiol ac sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau’r digartref. O ran defnyddwyr y gwasanaeth, mae’n gyfle gwych i gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddyfodol ACTAV8

Megan Stansfield, Ffisiotherapi (BSc)

I gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan yn ACTAV8, gall myfyrwyr gofrestru ar wefan gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, neu gysylltu ag arweinydd ACTAV8; Monica Reading - ReadingMA@caerdydd.ac.uk neu Megan Stansfield - StansfieldME@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon