Ewch i’r prif gynnwys

1989 & Beyond: The New Shape of Europe

10 Ebrill 2019

Prof Mary Heimann

Mae hanesydd o Gaerdydd yn/wedi cymryd rhan yn nigwyddiad y DU sy’n pwyso a mesur datblygiadau Ewropeaidd

Bu yr Athro Hanes Modern, Mary Heimann yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig yr wythnos hon gyda llysgenhadon y DU o’r Weriniaeth Tsiec, Slofacia a Gwlad Pwyl.

Bu awdur y llyfr arloesol Czechoslovakia:  The State That Failed yn cyfrannu at 1989:  Sbarduno Newid, y panel Hanes ym Mhedwerydd Symposiwm Canol Ewrop.

Mae’r flwyddyn 1989 yn rhan bwysig o hanes gyfoes. Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl y digwyddiadau, nod y symposiwm yw cynnig safbwynt hanesyddol ar y rhwygiadau a sbardunwyd yn y flwyddyn dyngedfennol honno, a gwerthuso eu harwyddocâd. Bydd y panel yn trafod effaith cwymp yr ‘ail fyd’ ar wladwriaethau Canol Ewrop yn benodol. Bydd yn cynnig sylwadau ar drawsnewidiad y drefn economaidd a gwleidyddol Ewropeaidd, a sut y gwnaethant newid atgofion, agweddau a disgwyliadau.

Bu Athro’r Gyfraith Jiri Priban yn cymryd rhan yn nhrafodaeth panel y Gyfraith, yr Undeb Ewropeaidd – Safbwynt o 2019.

Dilynwch #1989beyond i gael y wybodaeth ddiweddaraf a diweddariadau byw o’r digwyddiad ar Twitter.

1989 a Thu Hwnt: Cynhelir Siâp Newydd Ewrop ar 11 Ebrill yn Llundain.

Rhannu’r stori hon