Ewch i’r prif gynnwys

Rhesymoli'r afresymol

15 Hydref 2015

hallucination black and white

Sut mae rhithwelediadau yn deillio o geisio gwneud synnwyr o fyd amwys

Edrychwch ar y ddelwedd uchod. Yn ôl pob tebyg, mae'n edrych fel patrwm ddiystyr o blotiau du a gwyn. Ond nawr, edrychwch ar y ddelwedd isod cyn ailedrych ar y llun: mae'n debygol y bydd y ddelwedd ddu a gwyn yn gwneud synnwyr i chi erbyn hyn. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen yn credu y gallai'r gallu hwn egluro pam mae rhai pobl yn dueddol o gael rhithwelediadau.

Mae seicosis, neu golli cysylltiad â realiti allanol - yn brofiad dryslyd ac sy'n aml yn hynod frawychus. Yn aml, mae hyn yn achosi anhawster wrth geisio gwneud synnwyr o fyd sy'n gallu ymddangos yn fygythiol, yn ymwthiol ac yn ddryslyd. Gall seicosis fynd law yn llaw â newid canfyddiad yn llwyr ac i'r fath raddau lle mae pobl yn gallu gweld, teimlo, arogli a blasu pethau nad ydynt yno – sef y rhithwelediadau. Gall y rhithwelediadau hyn fod yn gysylltiedig â chredoau sydd, i bobl eraill, yn afresymol ac yn amhosibl eu deall.

Mewn ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of National Academy of Sciences (PNAS), mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd a Chaergrawnt yn edrych ar y syniad mai'r hyn sy'n achosi rhithwelediadau yw ein tuedd arferol i ddehongli'r byd o'n cwmpas ni drwy wneud defnydd o wybodaeth ymlaen llaw a rhagfynegiadau.

Er mwyn deall ein hamgylchedd ffisegol a chymdeithasol, a rhyngweithio ag ef, mae angen gwybodaeth briodol arnom am y byd o'n cwmpas e.e. maint neu leoliad gwrthrych sydd gerllaw. Fodd bynnag, nid yw'r wybodaeth hon ar gael ar ein cyfer yn uniongyrchol, felly cawn ein gorfodi i ddefnyddio ein synhwyrau i ddehongli gwybodaeth a allai fod yn amwys ac yn anghyflawn. Mae'r ymennydd yn mynd i'r afael â'r her - er enghraifft, yn ein system weledol - drwy gyfuno gwybodaeth synhwyraidd amwys â'r hyn yr oeddem yn ei wybod am yr amgylchedd yn flaenorol i greu cynrychiolaeth gadarn a diamwys o'r byd o'n cwmpas. Er enghraifft, pan awn i mewn i'n hystafell fyw, hwyrach ein bod yn gwybod mai'r gath yw'r siâp du sy'n symud yn gyflym, er mai cipolwg yn unig a gawsom ohoni cyn iddi ddiflannu y tu ôl i'r soffa: prin iawn oedd y mewnbwn synhwyraidd a gawsom gan mai ein gwybodaeth ymlaen llaw a wnaeth yr holl waith creadigol.

Yn ôl Dr Christoph Teufel o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerddydd: "Proses adeiladol yw gweld - mewn geiriau eraill, ein hymennydd sy'n creu'r byd yr ydym yn ei weld". "Mae'n llenwi'r bylchau, yn anwybyddu pethau nad ydynt yn cyd-fynd yn berffaith â'r gweddill, ac mae'n cyflwyno delwedd o'r byd sydd wedi'i olygu ac yn gwneud iddi gyd-fynd â'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl."

"Mae cael ymennydd sy'n darogan yn ddefnyddiol iawn – mae'n ein gwneud yn effeithlon ac yn gallu creu darlun cydlynol o fyd amwys a chymhleth," ychwanegodd yr uwch-awdur, yr Athro Paul Fletcher o'r Adran Seiciatreg ym Mhrifysgol Caergrawnt. "Fodd bynnag, mae hefyd yn golygu nad ydym fyth yn bell iawn o weld pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd, sef y diffiniad o rithwelediad.

"Yn wir, dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi sylweddoli nad pobl sydd â salwch meddwl yn unig yw'r rhai sy'n cael profiadau canfyddiadol wedi newid. Maent yn gymharol gyffredin, ar ffurf ysgafnach, ar draws y boblogaeth gyfan. Bydd llawer ohonom wedi clywed neu weld pethau nad ydynt yno."

Er mwyn gweld p'un a yw prosesau rhagfynegol o'r fath yn cyfrannu at ddatblygu seicosis, bu'r ymchwilwyr yn gweithio gyda 18 o unigolion oedd wedi'u cyfeirio i wasanaeth iechyd meddwl o dan ofal Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG yn Swydd Gaergrawnt a Peterborough. Fe'i arweinir gan Dr Jesus Perez, un o gyd-awduron yr astudiaeth, fu'n dioddef o arwyddion cynnar iawn o seicosis. Edrychwyd ar sut roedd yr unigolion hyn, yn ogystal â grŵp o 16 gwirfoddolydd iach, yn gallu defnyddio rhagfynegiadau er mwyn deall delweddau du a gwyn, amwys ac anghyflawn, tebyg i'r un uchod.

Gofynnwyd i'r gwirfoddolwyr edrych ar gyfres o ddelweddau du a gwyn, gyda rhai ohonynt llun o unigolyn, cyn dweud a oedd unigolyn yn y ddelwedd ai peidio. Roedd y dasg yn un anodd iawn ar y dechrau oherwydd natur amwys y delweddau. Dangoswyd cyfres o ddelweddau gwreiddiol llawn lliw iddynt wedyn, gan gynnwys y rhai yr oedd y delweddau du a gwyn wedi deillio ohonynt; roedd modd defnyddio'r wybodaeth hon i wella gallu'r ymennydd i wneud synnwyr o'r ddelwedd amwys. Yn ôl rhesymeg yr ymchwilwyr, gan mai mwy o duedd i osod rhagfynegiadau ar y byd sydd i'w gyfrif o bosibl am rithwelediadau, byddai'r rhai sy'n tueddu i gael rhithwelediadau yn gallu defnyddio'r wybodaeth hon yn well oherwydd byddai strategaeth o'r fath o fantais yn y dasg hon.

Gwelodd yr ymchwilwyr fwy o welliant mewn perfformiad ymhlith y rhai oedd ag arwyddion cynnar iawn o seicosis o'i gymharu â'r grŵp iach. Roedd hyn yn awgrymu bod y rhai oedd yn y grŵp clinigol yn dibynnu mwy ar y wybodaeth oedd wedi'i rhoi iddynt i wneud synnwyr o'r lluniau amwys.

Pan gyflwynodd yr ymchwilwyr yr un dasg i grŵp mwy oedd yn cynnwys 40 o bobl iach, gwelwyd continwwm yn eu perfformiad yn y dasg oedd yn cyd-fynd â sgôr y rhai a gymerodd ran mewn profion o dueddiad i gael seicosis. Mewn geiriau eraill, mae modd sylwi ar ddull prosesu gwybodaeth sy'n ffafrio gwybodaeth flaenorol dros fewnbwn synhwyraidd wrth wneud canfyddiad, hyd yn oed cyn i symptomau seicotig cynnar ddod i'r amlwg.

"Mae'r canfyddiadau hyn yn bwysig gan eu bod yn dangos bod modd deall symptomau pwysig o iechyd meddwl o safbwynt newid cydbwysedd mewn swyddogaethau arferol yr ymennydd," meddai Naresh Subramaniam o'r Adran Seiciatreg ym Mhrifysgol Caergrawnt. "Yn anad dim, maent hefyd yn awgrymu nad yw'r symptomau a'r profiadau hyn yn adlewyrchu ymennydd sydd wedi 'torri'. Yn hytrach, mae'n ymennydd sy'n ceisio – mewn ffordd naturiol iawn – gwneud synnwyr o'r data newydd sy'n amwys."

Cynhaliwyd yr astudiaeth gyda Dr Veronika Dobler a'r Athro Ian Goodyer o'r Adran Seiciatreg Plant a'r Rhai yn eu Harddegau ym Mhrifysgol Caergrawnt. Ariannwyd yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Wellcome a Chronfa Niwrowyddoniaeth Iechyd Bernard Wolfe. Fe'i chynhaliwyd yn Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG yn Swydd Gaergrawnt a Peterborough. Rhoddodd Ymddiriedolaeth Wellcome a'r Cyngor Ymchwil Feddygol gefnogaeth ychwanegol i Sefydliad Niwrowyddoniaeth Ymddygiadol a Chlinigol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Hallucinations colour