Ewch i’r prif gynnwys

£1.8m ar gyfer adnodd Cymraeg gyfoes ar-lein

14 Hydref 2015

Welsh language letters in wood

Prifysgol i arwain prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf

Bydd gan Brifysgol Caerdydd rôl allweddol wrth ddatblygu'r corpws cyntaf erioed o'r iaith Gymraeg ar raddfa fawr. Bydd yn cynnwys set ddata o 10 miliwn o eiriau Cymraeg yn y lle cyntaf.

Mae Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol wedi cael £1.8m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn sy'n cynnwys sawl sefydliad. Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yw enw'r prosiect.

Bydd y prosiect tair blynedd a hanner yn dechrau ym mis Mawrth 2016 ac yn manteisio ar arbenigedd o Brifysgolion Abertawe, Bangor a Lancaster. Bydd CorCenCC yn torri tir newydd fel adnodd iaith ac fel model o adeiladu corpws.

Bydd y corpws - casgliad mawr o destunau, neu gorff o ddeunydd ysgrifenedig neu lafar ar gyfer dadansoddiad ieithyddol - yn cynrychioli'r holl ffyrdd y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i chyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys iaith lafar, ysgrifenedig a digidol ac yn cwmpasu gwahanol feysydd, amrywiaethau iaith - rhanbarthol a chymdeithasol - a gwahanol gyd-destunau.

Daw’r cyfranwyr o blith y 562,000 o siaradwyr Cymraeg yn y DU, a byddant yn cyfrannu drwy dechnolegau digidol torfol a chydweithio cymunedol.

Caiff rhagor o fanylion am greu'r prosiect a'r ffyrdd y bydd defnyddwyr yn gallu cyfrannu, eu rhannu ar ôl dechrau'r prosiect yn 2016. 

Dywedodd Dr Dawn Knight, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: "Rydym yn gobeithio datblygu'r corpws byw ac esblygol hwn, y cyntaf ar raddfa fawr, i gynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu, a chael defnyddwyr cyfredol yr iaith i'w lenwi.

“Byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sawl ffordd ac yn defnyddio technolegau newydd i wneud hynny. Prosiect yw hwn am y defnydd o'r iaith yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y DU a bydd yn rhoi gwybodaeth i ni am sut mae’r defnydd o’r iaith yn amrywio ac yn newid -  boed hynny'n wahaniaethau rhanbarthol neu'r defnydd o dreigladau -  dros amser.

"Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gan gynnwys cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith ac academyddion. Bydd pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei greu ar gyfer athrawon a dysgwyr, gan gyfuno swyddogaethau sylfaenol corpws er mwyn ymchwilio i ddefnydd iaith."

Mae ystod y rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa a Geiriadur Prifysgol Cymru – yn cynrychioli perthnasedd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol y prosiect.