Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Myfyrwyr Gus Astley 2018

3 Ebrill 2019

Gus Astley Award Logo

Mae dau o fyfyrwyr MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy wedi cael canmoliaeth arbennig yn rhan o Wobr Myfyrwyr Gus Astley 2018 gan y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC).

Cafodd Gwobr i Fyfyrwyr Gus Astley, sy’n cael ei chyflwyno’n flynyddol, ei sefydlu er cof am Gus Astley, cyn Ysgrifennydd Aelodaeth yr IHBC. Caiff ei chyflwyno am ddarn rhagorol o waith cwrs a addysgir yn rhan o gwrs israddedig neu ôl-raddedig.

Cafodd Katerina Tzivelopoulou gydnabyddiaeth ar gyfer ei thraethawd hir ‘Lost Brutalism: An investigation into the commercial brutalist architecture’ a Marianna Fotopoulou ar gyfer ei thraethawd hir ar ‘Historic cob buildings in Wales - Conservation approaches to meet contemporary needs and demands’. Bu’r ddwy yn astudio MSc mewn Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl graddio o Brifysgol Genedlaethol Dechnegol Athens. Byddant yn derbyn eu tystysgrifau yn Ysgol Flynyddol IHBC, a gaiff ei chynnal yn Nottingham rhwng 4 a 6 Gorffennaf 2019.

Dywedodd Dr Oriel Prizeman, arweinydd y cwrs MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy: “Rydym yn falch dros ben am gael ein cysylltu â’r cyflawniad nodedig hwn ac mae dyled arnom i’n cydweithwyr uchel eu parch ym Mhrifysgol Genedlaethol Dechnegol Athens. Cyfrannodd eu hyfforddiant blaenorol rhagorol at waith ein myfyrwyr a’r cydnabyddiaethau hyn.”

Dysgwch fwy am MSc Cadwraeth Adeiladau Cynaliadwy.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau traethawd hir Katerina a Marianna, ewch i Flog Newyddion IHBC.

Rhannu’r stori hon