Ewch i’r prif gynnwys

Tyfu Sgwrs y Stryd- prosiect ar y stryd unigryw!

2 Ebrill 2019

Growing Street project
The Growing Street Project

Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn brosiect tair blynedd newydd a chyffrous i bobl sy'n byw yn ardaloedd Grangetown a Sblot sydd am ddatblygu eu gerddi blaen a gwella golwg eu strydoedd.

Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn ymwneud ag ysbrydoli a galluogi pobl i wneud gwahaniaeth i’w hardal. Erbyn diwedd y prosiect, y nod yw cael nifer o strydoedd yn y ddwy ardal gyda chymdogion yn cydweithio i wneud eu strydoedd yn fwy gwyrdd, cyfeillgar a bywiog.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y tîm Tyfu Sgwrs y Stryd yn cynnal rhaglen o weithdai garddio creadigol a fydd yn dod â chymdogion ac aelodau'r gymuned at ei gilydd.

Rydym am roi sgiliau a chyfleoedd i'r trigolion i rannu syniadau i'w helpu i wella eu gerddi blaen ac i sefydlu grwpiau garddio bach ar y stryd. Erbyn diwedd 2019 ein gweledigaeth yw y bydd ystod o glybiau garddio yn cynnal y prosiect eu hunain.

Mae gan Michele Fitzsimmons rôl flaenllaw yn y prosiect hwn.  Mae Michelle hefyd yn addysgu cyrsiau ar gyfer Addysg Barhaus a Phroffesiynol a bydd ei chwrs nesaf Cynllunio Eich Gardd Fwytadwy yn cael ei gynnal ym mis Mai 2019.

Mae Tyfu Sgwrs y Stryd yn cael ei rgynnal gan Brosiect Gerddi UpFront CIC, gyda chefnogaeth ein partneriaid cymunedol Cadw Sblot yn Daclus, Clwb Garddio Pentre a'r Loteri Fawr

Growing Street Talk
Growing Street Talk

Rhannu’r stori hon