Ewch i’r prif gynnwys

Ymrwymiad i ymchwil lewcemia arloesol yng Nghymru

28 Mawrth 2019

LRAW Presenting donation

Mae Prifysgol Caerdydd wedi diolch i Apêl Ymchwil Lewcemia am 37 o flynyddoedd o gefnogaeth ardderchog, ac am gyfrannu mwy na £2.3 miliwn at ymchwil lewcemia yn y Brifysgol.

Cynhaliodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, ddathliad ar gyfer Apêl Ymchwil Lewcemia dros Gymru, i ddathlu eu cefnogaeth gadarn sydd wedi helpu i gyllido darganfyddiadau ym maes lewcemia.

Yn y digwyddiad, estynnodd y Dirprwy Is-Ganghellor ddiolch i Jackie Edwards, Dr Nicola Lewis a Simon Davies, drwy roi darn o gelf a grëwyd gan gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd iddynt.

Mae Apêl Ymchwil Lewcemia Cymru’n dibynnu ar wirfoddolwyr sy’n codi arian, a chymynroddion pellgyrhaeddol gan roddwyr haelfrydig yn eu hewyllys.

Labordy Dr Neil Rodrigues o’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd a gafodd y rhodd ddiweddaraf, £179,504. Amcan y labordy yw deall mwtaniadau genynnol y clefyd yn well.

Dros y 30 blwyddyn ddiwethaf, mae cyfraddau goroesi cleifion o dan 60 oed wedi cynyddu i 50%. Fodd bynnag, mae lewcemia myeloid llym yn fwyaf cyffredin ymhlith pobl dros 65 oed, ac mae eu cyfraddau goroesi’n wael o hyd – ni welwyd cynnydd dros y degawdau diwethaf.

Dywedodd Dr Neil Rodrigues: “Rydym eisiau edrych ar y genynnau sy’n ymwneud â datblygiad y gwaed ac imiwnedd er mwyn eu targedu. Bydd hyn yn arwain at driniaeth fwy effeithiol a llai gwenwynol.

“Diolch i Gefnogaeth yr Apêl Ymchwil Lewcemia Cymru, mae Leigh-anne Thomas, myfyriwr PhD yn fy labordy, yn gallu ymchwilio i effeithiau mwtaniad o’r enw GATA2 ar sut mae’r gwaed yn ffurfio.

“Pan fyddwn yn deall hyn, ein nod hirdymor yw defnyddio hyn fel llwyfan i sgrinio cyfansoddion therapiwtig a allai gael eu defnyddio yn y clinig.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Apêl Ymchwil Lewcemia Cymru am eu rhan yn yr ymchwil hanfodol hon.”

Rhannu’r stori hon