Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu £2.7bn i economi'r DU

14 Hydref 2015

Aerial shot of Cardiff

Ymchwil newydd yn dangos bod y Brifysgol yn cynhyrchu £6 am bob £1 y mae'n ei gwario 

Yn ôl gwaith ymchwil newydd, amcangyfrifir bod Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu £2.7bn i economi'r DU bob blwyddyn, gan gynhyrchu dros £6 am bob £1 y mae'n ei gwario.

Mae adroddiad annibynnol a gynhyrchwyd ar gyfer y Brifysgol gan London Economics yn darparu'r dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o gyfanswm effaith economaidd a chymdeithasol y Brifysgol.

Daw'r adroddiad yn sgîl adroddiad am effaith economaidd gan Viewforth Consulting Ltd yn gynharach eleni, a ganfu bod cyfraniad economaidd y Brifysgol a gwariant ei myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau bron yn £1bn y flwyddyn.

Mae'r adroddiad newydd yn cynnwys y cyfraniad economaidd, ond mae'n mynd llawer ymhellach drwy ystyried effaith gymdeithasol ehangach y Brifysgol hefyd.

Yn ogystal, mae'n ystyried sut mae'r Brifysgol yn dod â manteision economaidd i rannau helaeth o Gymru, nid dim ond Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y darlun llawn gan amcangyfrif, am y tro cyntaf, ein heffaith economaidd a chymdeithasol gyffredinol ar economi'r DU.

"Mae pob un ohonom yn gwybod bod mynd i'r brifysgol yn gweddnewid bywydau pobl, ac yn effeithio ar eu gyrfaoedd a'u teuluoedd hefyd.

"Mae'r astudiaeth yn dangos bod Prifysgol Caerdydd hefyd yn ysgogwr economaidd a chymdeithasol allweddol, sy'n dangos ein bod yn cynhyrchu dros £6 am bob £1 rydym yn ei gwario.

"Nid oes amheuaeth mai sgiliau lefel uwch ac ymchwil arloesol prifysgolion yw'r sail i dwf economaidd."

Bydd cyfraniad economaidd y Brifysgol yn cynyddu gyda’i champws arloesedd newydd gwerth £300m.

Bydd y gwaith a wneir yn y cyfleusterau modern hyn yn rhoi hwb i ffyniant economaidd a chymdeithasol, gan droi syniadau yn gynnyrch, technolegau a busnesau newydd.

Yn fwyaf arwyddocaol, mae'r adroddiad newydd yn ystyried manteision dysgu ac addysgu, yn arbennig effaith myfyrwyr sy'n ennill mwy o ganlyniad i'w haddysg, ac sy'n talu mwy o dreth. 

Amcangyfrifir bod y manteision dysgu ac addysgu hyn werth bron i £1bn y flwyddyn.

Mae'r astudiaeth hefyd yn ystyried manteision gweithgarwch ymchwil y Brifysgol, y cyfrifir eu bod werth dros £600m.

Yn ogystal â grantiau ac incwm a gynhyrchir gan y Brifysgol ar gyfer ymchwil, mae hyn hefyd yn cynnwys yr hwb cynhyrchu y mae ymchwil y Brifysgol yn ei greu ar gyfer cwmnïau preifat yn y DU.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: "Un o elfennau mwyaf arwyddocaol yr adroddiad hwn yw'r swyddi gwell a gaiff ein graddedigion.

"Ar ôl asesu'r cyflogaeth, enillion a threthiant gwell sy'n gysylltiedig â chael gradd o Brifysgol Caerdydd, mae'r adroddiad yn canfod manteision sylweddol a pharhaus i'r farchnad lafur."

Mae'r manteision cymdeithasol a amlygwyd yn yr adroddiad yn cynnwys y gwaith gwirfoddol arbennig a wneir gan fyfyrwyr y Brifysgol drwy Wirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (GMC), elusen a gaiff ei rhedeg gan y myfyrwyr.

Ymgymerwyd â thros 1,200 o gyfleoedd gwirfoddoli tymor byr a hir yn 2012-13, wrth i fyfyrwyr gyfrannu tua 50,000 o oriau o weithgarwch gwirfoddol, gan weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid allanol ac ar brosiectau a ddatblygwyd gan GMC.

Mae'r prif ganfyddiadau'n cynnwys:

(Yn 2012/2013):

  • £968m oedd effaith economaidd cyfunol holl weithgarwch dysgu ac addysgu Prifysgol Caerdydd, a fesurwyd fel derbyniadau trethiant ac enillion cynyddol i raddedigion.
  • £609m oedd cyfanswm y budd economaidd sy'n gysylltiedig â gweithgarwch ymchwil Prifysgol Caerdydd.
  • Roedd cyfanswm gwariant sefydliadol uniongyrchol, anuniongyrchol ac ysgogedig Prifysgol Caerdydd, a gwariant personol ei myfyrwyr, yn £1bn ledled y DU, ac amcangyfrifir bod £886m (86%) o'r cyfanswm hwnnw yng Nghymru.
  • £135m oedd yr incwm a gafwyd gan fyfyrwyr tramor. Roedd £12m o'r incwm hwn yn cael ei gynhyrchu gan fyfyrwyr o'r UE a £123m gan fyfyrwyr rhyngwladol nad ydynt o'r UE.
  • Mae'r Brifysgol yn cyflogi 5,500 o bobl yn uniongyrchol, ond mewn gwirionedd yn cefnogi 5,900 o swyddi'n ychwanegol.
  • Amcangyfrifir mai £2.7bn yw cyfanswm effaith economaidd a chymdeithasol Prifysgol Caerdydd.