Wrth i droseddau newid, rhaid newid dulliau plismona hefyd
8 Hydref 2015
Ymchwil newydd yn amlygu "bygythiad difrifol"
troseddau economaidd
Rhaid i'r
rhai sy'n gorfodi'r gyfraith fabwysiadu dulliau newydd i fynd i'r afael â
phroblem gynyddol troseddau economaidd ar-lein, yn ôl adroddiad newydd gan
Brifysgol Caerdydd ar gyfer Corfforaeth Dinas Llundain, a gefnogir gan Heddlu
Dinas Llundain.
Mae'r
adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (06 Hydref 2015), yn amlygu graddfa troseddau
ar-lein yn y DU gan gyfeirio at y ffaith fod Action Fraud wedi cael
gwybod gan unigolion a busnesau am 106,681 o achosion yn ymwneud â thwyll yn
chwarter olaf 2014, gydag un achos o bob tri yn ymwneud â thwyll yn y diwydiant
credyd a bancio.
Yn ôl yr adroddiad 'The
Implications of Economic Cybercrime for Policing’, collwyd cyfanswm o £217.4m o ganlyniad i dwyll e-fasnach
yn 2014, a chollodd y sector bancio £60.4m yn 2013/14 oherwydd twyll mewn
bancio ar-lein - y ffigur uchaf erioed.
Cyfeirir hefyd at ddata gan y cwmni cyfrifeg PWC yn yr ymchwil sy'n dangos bod
90% o sefydliadau mawr wedi wynebu bygythiad i'w diogelwch yn 2013/2014.
Yn y cyd-destun hwn, mae'r adroddiad yn galw am ymdrech newydd gan y rhai sy'n gorfodi'r gyfraith wrth atal a mynd i'r afael â'r math hwn o droseddu.
Mae'n amlinellu'r prif heriau sy'n wynebu strategaeth 'Pedwar P' y Llywodraeth wrth blismona troseddau economaidd ar-lein. Mae'r strategaeth yn ystyried cymhlethdod achosion; sut maent yn ehangu ar draws tiriogaethau; tactegau'r troseddwyr sy'n newid yn gyflym; nifer y digwyddiadau; y ffaith nad yw troseddwyr yn aml yn ymwybodol o'r effaith; amharodrwydd parhaus i roi gwybod am droseddau; a diffyg rhannu a chasglu gwybodaeth am grwpiau a gweithgarwch troseddol.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
- Dylai fod mwy o bwyslais ar 'Diogelu' a ‘Pharatoi’ (atal a hydwythedd) yn y strategaeth yn hytrach nag 'Erlyn'. Mae hyn yn cynnwys addysgu dinasyddion am beryglon troseddau ar-lein yn well, yn enwedig pobl sy'n agored i niwed ac sy’n debygol o gael eu targedu dro ar ôl tro, a’u helpu i’w diogelu. Dylai pobl fusnes sydd â mynediad TG corfforaethol eang ystyried eu gwasanaethau eu hunain yn ofalus rhag ofn bod rhai o fewn a thu allan i’w cwmnïau’n ceisio amharu ar eu systemau. Dylai cwmnïau adolygu beth sydd angen bod yn gysylltiedig â’r we mewn gwirionedd os yw’r cwmni’n dibynnu ar yr asedau hynny.
- Dylai fod pwyslais ar weithio mewn partneriaeth a mwy o gydweithio ar draws heddluoedd a chyrff pwysig eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol – gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Swyddfa Eiddo Deallusol a Safonau Masnach fel rhan o'r teulu plismona ehangach, yn ogystal â phartneriaid rhyngwladol.
- Dylai'r rhai sy'n gorfodi'r gyfraith roi mwy o sylw i dactegau amharu – megis adnabod a chau gwefannau twyllodrus – yn hytrach nac adrodd ac ymchwilio drwy ddulliau traddodiadol.
- Adeiladu ar ymdrechion presennol i blismona troseddau economaidd ar-lein ar y cyd a mynd i'r afael â'r troseddau hynny sy'n cynnig y bygythiad mwyaf yn ôl pob golwg o ran maint, gwerth, niwed a/neu ddifrifoldeb y bygythiad, ac adnabod y sefydliad a lleoliad y troseddwyr.
Dywedodd yr Athro Mike Levi, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a phrif awdur yr adroddiad: "Mae cyflwyno technoleg soffistigedig wedi gweddnewid y ffordd y cyflawnir troseddau economaidd – gan alluogi twyll i ddigwydd ar raddfa eang, yn gyflym iawn, ac o bell, a heb fod angen unrhyw gyswllt corfforol rhwng y troseddwr a'r dioddefwr.
"Mae'r math yma o drosedd yn herio modelau plismona confensiynol sy'n canolbwyntio ar ganfod ac ymchwilio gan olygu bod y ffyrdd y cyflawnir troseddau o'r fath yn newid yn llwyr. Felly, mae plismona – yn y DU a ledled y byd – yn wynebu sawl her wrth addasu ac ymateb i'r patrymau troseddu hyn sy'n esblygu.
"Mae'r adroddiad hwn yn rhoi data a dadansoddiad newydd ynghylch graddfa'r gweithgaredd hwn ac mae'n cynnig darlun cynhwysfawr o'r heriau sy'n wynebu cyrff plismona a gorfodwyr y gyfraith wrth ymateb. Mae'n gwerthuso llwyddiant gwahanol ddulliau o atal a mynd i'r afael â throseddau, ac mae'n cynnig awgrymiadau ymarferol sy'n canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth, addysg a chodi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth ar draws y diwydiant, a phlismona ar sail gwybodaeth.
"Bydd y perygl o gael eich twyllo gan droseddwyr wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd yn parhau i gynyddu oni bai ein bod yn gwneud mwy i ddiogelu ein hunain ac eraill. Wrth i droseddau newid, rhaid newid dulliau plismona hefyd."
Dywedodd Adrian Leppard, Comisiynydd QPM Heddlu Dinas Llundain: "Dylem
ddisgwyl i holl luoedd yr heddlu roi blaenoriaeth i droseddau ar-lein, ac
ystyried ffyrdd y gallant ddefnyddio eu hadnoddau presennol ynghyd â
gwirfoddolwyr a busnesau lleol i helpu eu hymdrechion i ddiogelu. Ni ddylai
troseddau ar-lein fod yn llai o flaenoriaeth i'r heddlu dim ond am nad oes
digon o adnoddau ar gael.
"Mae angen ymdrech newydd sy'n rhoi gofal ac addysg i ddioddefwyr
troseddau ar-lein, fel bod llai yn gorfod dioddef. Mae angen i ni gyrraedd y
rhai sydd mewn perygl, yn enwedig busnesau bach a chanolig a'r unigolion hynny
y mae'r rhyngrwyd yn gymharol newydd iddynt."