Ewch i’r prif gynnwys

50 Mlynedd ers Arwisgiad Tywysog Cymru

11 Mawrth 2019

Buckingham Palace
Pixabay

Ymunodd y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau â'r Teulu Brenhinol ym Mhalas Buckingham i nodi hanner can mlynedd ers i'r Tywysog Siarl gael ei enwi’n Dywysog Cymru.

Daeth y Frenhines ac aelodau blaenllaw o'r Teulu Brenhinol ynghyd i goffáu gwasanaeth y Tywysog i Gymru, gan wahodd cyfarwyddwyr sefydliad newydd Prifysgol Caerdydd i ymuno â'r dathliadau.

Roedd y derbyniad yn nodi hanner canrif ers i'r Frenhines arwisgo Tywysog Cymru yn naw oed ar Orffennaf 26, 1958.

Ymunodd yr Athro Simon Ward a'r Athro John Atack ag unigolion blaenllaw eraill ym mywyd cyhoeddus Cymru a'r DU, yn ogystal â chynrychiolwyr o nifer o elusennau a noddwyr Cymru mae’r darpar frenin yn eu cefnogi.

Roedd rhestr y gwesteion yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n gysylltiedig â Thywysog Cymru, megis Prince's Trust Cymru, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, a Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Dywedodd yr Athro John Atack, Cyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: "Mae'n braf gweld nod y Sefydliad Darganfod Meddygaeth i wneud yn siŵr bod Cymru wrth wraidd arloesedd meddygol yn cael ei gydnabod mewn digwyddiad sy’n dod ag unigolion nodedig ynghyd i ddathlu hanner can mlwyddiant Arwisgiad Tywysog Cymru."

Rhannu’r stori hon