Ewch i’r prif gynnwys

Datgodio beth sy'n mynd o'i le yn arthritis

6 Hydref 2015

Hands with noticeable arthritus joints

Gobaith o weddnewid gofal cleifion gyda darganfyddiadau newydd ym maes arthritis gwynegol

Mae gwyddonwyr wedi gwneud darganfyddiad sydd, yn eu barn nhw, â'r potensial i atal dyfodiad math o arthritis gwynegol sy'n ymosodol ac yn anodd ei drin - cyflwr sy'n effeithio ar 700,000 o oedolion yn y DU.

Gan gyhoeddi yn Journal of Experimental Medicine, mae tîm o imiwnolegwyr o Brifysgol Caerdydd yn troedio tir newydd wrth ddisgrifio sut mae protein yn y system imiwnedd - interleukin-27 - yn rheoleiddio'r broses llid mewn arthritis gwynegol llawn lymffoid, sy'n achosi symptomau nodweddiadol cymalau poenus wedi chwyddo.

Mae'r math hwn o arthritis, sy'n gyflwr hirdymor ac yn achosi anabledd, yn cyfrif am hyd at 40% o'r achosion a gaiff ddiagnosis. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir nad yw dau glaf o bob pump sy'n dioddef o'r clefyd yn ymateb i'r driniaeth bresennol, felly gall y clefyd yn aml fod yn anodd ei drin.

Tîm Caerdydd yw'r cyntaf i allu esbonio sut mae'r math hwn o arthritis yn datblygu. I ddangos hyn, gwnaethant ddefnyddio modelau arbrofol o arthritis a oedd yn cynnwys llygod, celloedd a biopsïau meinweoedd gan gleifion â symptomau cynnar y cyflwr, gan ddefnyddio techneg uwchsain newydd.

Yn ôl y gwyddonwyr, bydd deall y broses hon yn galluogi meddygon i rannu cleifion yn wahanol is-grwpiau, ar sail patrymau amrywiol y clefyd, ac mae faint o interleukin-27 sydd yng nghymalau pob claf yn dylanwadu ar hyn.

Bydd yr is-grŵp y bydd claf yn perthyn iddo yn llywio'r cwrs therapi y bydd yn ei dderbyn, gan olygu dull mwy pwrpasol o drin y cyflwr, a gwell cyfle i'r claf wella.

Mae'r ymchwilwyr hefyd yn rhagweld y bydd y ffaith eu bod wedi adnabod rôl interleukin-27 yng nghyd-destun penodol y clefyd hwn yn fan cychwyn ar gyfer chwilio am gyffuriau newydd sy'n trin y llwybrau a reolir gan y ffactor hwn. Dywedodd Dr Gareth Jones, o Sefydliad Haint ac Imiwnedd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd:

"Mae ar ddeall mai ymyriad cynnar sy'n rhoi'r cyfle gorau o wellhad clinigol yn achos pob math o arthritis gwynegol. Po gynharaf y bydd y driniaeth yn dechrau, y mwyaf effeithiol y mae'r ymateb therapiwtig yn debygol o fod.

"Adnabod pa gyffur sydd fwyaf addas i glaf unigol yw'r elfen allweddol. Bydd gwneud y penderfyniadau cywir o ran y driniaeth, yn ddigon cynnar ym mhroses y clefyd, yn gwella canlyniad y clefyd, yn gwella lles cleifion ac ansawdd eu bywyd yn gyffredinol.

"Mae ein gwaith ymchwil yn adnabod llwybrau hanfodol a mecanweithiau sy'n ein galluogi i wahaniaethu rhwng gwahanol is-fathau o arthritis gwynegol, gan ddefnyddio modelau arbrofol sy'n adlewyrchu ffurfiau dynol y clefyd.  Gallai asiantau sy'n trin gweithgarwch y llwybrau hyn fod yn therapïau posibl i'w datblygu yn y dyfodol hefyd."

Dywedodd yr Athro Christopher Buckley, ymchwilydd o Grŵp Ymchwil Rhewmatoleg Prifysgol Birmingham: "Mae'r posibilrwydd o ddefnyddio interleukin-27 i rannu cleifion sydd ag arthritis gwynegol yn grwpiau gwahanol yn ddarganfyddiad pwysig iawn a fydd yn helpu i weddnewid ein gallu i ddefnyddio dull mwy personol o reoli cleifion sydd â'r math mwyaf ymosodol o arthritis.

"Yn ogystal, mae adnabod interleukin-27 fel biofarciwr ar gyfer y math o arthritis gwynegol lle mae meinweoedd lymffoid yn ffurfio yn y synofiwm, yn awgrymu y gallai targedu'r sytocin hwn fod yn fuddiol.

Amcangyfrifir bod arthritis gwynegol yn effeithio ar un y cant o boblogaeth y byd, a gwneir 20,000 diagnosis newydd bob blwyddyn yn y DU yn unig. Bob blwyddyn, mae'r GIG yn gwario £560M ar driniaethau cyffuriau biolegol i liniaru effaith y clefyd.

Ariennir y gwaith ymchwil gan Ymchwil Arthritis y DU.