Hain a Silk yn galw am Ddeddf Uno newydd
29 Tachwedd 2018
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1448801/UK-Flags.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Roedd yn bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd gynnal sesiwn trafodaeth gan Peter Hain a Paul Silk ar Ddeddf drafft y Grŵp Diwygio Cyfansoddiadol yr wythnos hon yn adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Rachel Minto, ac fe gafwyd trafodaeth ar b’un a ellid cyflawni Teyrnas Gyfunol ffederal, lle byddai rhannau cyfansoddol y wladwriaeth yn rhannu pwerau ar sail a gytunwyd.