Ewch i’r prif gynnwys

Trydydd Sector Cymru’n rhannu ei ofnau Brexit â Llywodraeth Cymru

24 Hydref 2018

Mae mudiadau trydydd sector wedi cyflwyno heddiw eu gofynion ar gyfer Brexit gerbron Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC, gan dynnu ar ganfyddiadau Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.

Menter ar y cyd yw’r Fforwm a sefydlwyd yn haf 2018 rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu’r trydydd sector i chwarae mwy o ran yn y ddadl ynglŷn â Brexit.

Mae pryderon amrywiol wedi dod i’r amlwg yn ystod cyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd gan y Fforwm, gan gynnwys galw ar y rheini sy’n gwneud penderfyniadau i barchu datganoli yn ystod proses Brexit ac y craffir yn drylwyr ar bob deddfwriaeth ar ôl Brexit. Mae pryderon penodol mudiadau trydydd sector yn perthyn yn bennaf i bedwar maes gwahanol: cyllid; yr amgylchedd a lles anifeiliaid; cydraddoldeb a hawliau dynol; a mewnfudo.

Mae’r Fforwm, sydd â chysylltiadau â Chynghrair Cymdeithas Sifil Brexit ledled y Deyrnas Unedig ac a ariennir gan yLegal Education Foundation wedi cyhoeddi datganiad cynhwysfawr o’i safbwynt ar ei wefan, gan nodi:

  • ofnauna fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnig swm cyfatebol i’r £2.1bn o Gronfeydd Strwythurol yr UE, y bydd yn diraddio ymdrechion trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol, ac na fydd yn cael ei siapio na’i rhoi ar waith gan y trydydd sector, y sector preifat na’r sector cyhoeddus, gan gynnwys staff rheng flaen
  • galwadau i’r safonau presennol o ran yr amgylchedd a lles anifeiliaid gael eu cadw ac nid eu peryglu na’u gwanhau yn sgil cytundebau masnach newydd nac wrth lunio’r hyn a fydd yn disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a bod y corff gwarchod amgylcheddol newydd yn parchu deddfwriaeth ddatganoledig yn llwyr
  • yr angen i Lywodraeth Cymru gyfyngu troseddau casineb a gwarchod ein hawliau economaidd a chymdeithasol drwy sicrhau bod egwyddorion Siarter yr UE yn cael eu gwarchod a’u hybu, ym mhob rhan o fywyd, gan gynnwys mewn trafodaethau masnach ac yn y llys
  • galwadau i bob polisi mewnfudo newydd, gan gynnwys gweithredu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i ddinasyddion yr UE, sicrhau bod gwasanaethau hanfodol, fel y rheini a ddarperir gan y sector gofal, yn cael adnoddau digonol ac nad ydynt yn peryglu cydlyniant cymdeithasol na hawliau dinasyddion yr UE a chymunedau mudol yng Nghymru.

Mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford AC:

“Mae’r trydydd sector yng Nghymru yn fywiog ac yn amrywiol, gan gynnwys mudiadau sy’n darparu gwasanaethau ym mhob rhan o fywyd yng Nghymru.

“Beth bynnag fydd ffurf Brexit yn y pen draw, bydd yn amharu ar Gymru. Dyna pam y byddwn ni, fel llywodraeth gyfrifol, yn parhau i gynllunio ar gyfer pob canlyniad posib. Rhaid i’r trydydd sector yntau feddwl yn ofalus sut i ymateb i Brexit wrth barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau.

“Croesawaf bapur safbwynt y Fforwm gan y bydd o gymorth i’r trydydd sector ystyried y goblygiadau mewn sawl maes allweddol, megis hawliau dynol a chydraddoldeb, mewnfudo, dinasyddiaeth yr UE a’r amgylchedd a lles anifeiliaid.”

Mae dros 40 o fudiadau trydydd sector, gan gynnwys yr RSPB, Focus on Labour Exploitation, a Plant yng Nghymru, wedi cymryd rhan yn y Fforwm hyd yma. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Rhagfyr 2018. Mae croeso i unrhyw fudiad trydydd sector yng Nghymru gymryd rhan ynddo, neu mae mwy am y Fforwm a llinell amser Brexit ar gael ar y wefan newydd sbon: www.brexitforumwales.org

Yn ôl yr Athro Jo Hunt a’r Athro Daniel Wincott o Ganolfan Llywodraethiant Cymru:

“Mae Brexit eisoes wedi newid tirwedd y trydydd sector ac mae newidiadau mawr pellach yn anochel. Gyda chymorth y Legal Education Foundation, mae’r Fforwm yn cynnig cyfle gwerthfawr i academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd a’r tu hwnt weithio gyda’r trydydd sector ar y materion sy’n codi yn sgil Brexit.

“Dros gyfnod gweddol fyr, mae’r Fforwm wedi llwyddo i gasglu themâu a phryderon allweddol mudiadau trydydd sector. Mae’r sector elusennol a gwirfoddol yn gyfrifol am 10% o gyflogaeth yng Nghymru, a gan y bydd £2.1bn o arian o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn diflannu neu’n cael ei ddisodli’n fuan, mae’n bwysig casglu eu barn a deall beth sydd ei angen ar y sector i oroesi a ffynnu ar ôl Brexit.”

Dywedodd Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector yn WCVA:

“Nid yw’n syndod bod yna bryderon dilys am arian, a sut y bydd y cyllid yn lle arian Ewropeaidd, ar ffurf y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn cael ei siapio a’i roi ar waith. Bydd diffyg cyllid yn lle’r cyllid hwn yn effeithio’n ddwfn ar lawer o fudiadau a gwasanaethau yng Nghymru, a gall rhai ohonynt ddiflannu’n llwyr hyd yn oed.

“Yn fwy pryderus serch hynny yw y bydd y cytundebau masnach newydd ar ôl Brexit yn gwanhau mesurau sy’n gwarchod yr amgylchedd a lles anifeiliaid, yn hytrach na’u cryfhau – a hawliau gweithwyr yn yr un modd, y brwydrwyd yn galed amdanynt. Gan fod elusennau, mentrau cymdeithasol a mudiadau trydydd sector eraill yn chwarae rhan hanfodol yn cynnal cymdeithas Cymru, gan gynnwys darparu gwasanaethau rheng flaen, hanfodol, mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig dalu sylw.”

Rhannu’r stori hon