Ewch i’r prif gynnwys

Pleidlais y Cynulliad yn paratoi’r ffordd ar gyfer Senedd Cymru.

15 Hydref 2018

Mae’r Athro Laura McAllister, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, wedi croesawu’r bleidlais yr wythnos diwethaf i ganiatáu deddfwriaeth newydd i gael ei chyflwyno er mwyn diwygio Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bu’r Athro Polisi Cyhoeddus yn cadeirio Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a ddaeth i’r casgliad mewn adroddiad cynhwysfawr bod angen gwaith diwygio sylweddol.

Mae’r Llywydd wedi dangos bod nifer o’r diwygiadau sy’n cael eu cynnig gan Gomisiwn y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth newydd yn seiliedig ar waith Panel Arbenigol yr Athro McAllister.

Bydd Bil Senedd ac Etholiadau Cymru yn ehangu’r etholfraint gan alluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yn etholiadau datganoledig y dyfodol. Bydd yn newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol i ‘Senedd Cymru’ ym mis Mai 2020, ac yn gwneud newidiadau gweinyddol eraill.

Bydd ail gam y diwygiad yn dechrau nes ymlaen y tymor hwn. Bydd y cam hwn yn edrych ar faint y Cynulliad a’i system etholiadol.

Meddai’r Athro Laura McAllister:

“Rydw i’n croesawu y ddeddfwriaeth newydd, sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer trawsnewid y Cynulliad yn Senedd Cymru sy’n fwy addas at ei ddiben.

“Bydd ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a chaniatáu newid enw’r sefydliad yn trawsnewid y ffordd y bydd yr etholiadau datganoledig nesaf yn ymddangos i etholwyr Cymru.  Dangosodd gwaith ein Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad fod gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 yn ffordd bwerus o godi ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogiad ymysg pobl ifanc.

“Mae’r Llywydd wedi cadarnhau bod nifer o’r diwygiadau hyn yn seiliedig ar waith y Panel Arbenigol, o dan fy arweiniad. Ond mae cyfnod arall o ddiwygio, gan gynnwys newidiadau i faint Senedd Cymru, cydbwysedd rhwng dynion a menywod, a’r system etholiadol yn destunau trafod hefyd, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld trafodaethau’r ail gam yn symud yn eu blaen yn nes ymlaen yn ystod tymor presennol y Cynulliad.”

Rhannu’r stori hon