Ewch i’r prif gynnwys

Data newydd yn datgelu bod carcharorion wedi’u gwasgaru’n eang

20 Awst 2018

An image of the interior of a prison

Ystadegau nad oeddent wedi’u cyhoeddi o’r blaen yn dangos pa mor wasgaredig yw carcharorion.

Dangosodd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd heddiw y darlun cliriaf eto o’r boblogaeth carchardai yng Nghymru.

Mae data nad yw wedi’i weld o’r blaen, a gafwyd drwy geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos y carchardai lle mae’r holl garcharorion o Gymru yn cael eu dal, yn ogystal â pha un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n gartref iddynt. Ar wahân i hynny, mae gwybodaeth i ddangos o ba awdurdodau lleol mae’r holl garcharorion o Loegr sydd mewn carchardai yng Nghymru yn tarddu.

Mae Imprisonment in Wales: A Breakdown by Local Authority, yn ddilyniant i Imprisonment in Wales: A Factfile, a gafodd ei ryddhau yn gynharach eleni. Mae’r ddau yn rhan o brosiect ymchwil dwy flynedd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru o’r enw Cyfiawnder ac Awdurdodaeth, a fydd yn archwilio trefniadaeth a gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru. Yn yr adroddiad diweddaraf, sydd, am y tro cyntaf, yn rhoi cipolwg o wasgariad daearyddol carcharorion Cymru a Lloegr, yn cael ei rannu gydag awdurdodau lleol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys dwy set ddata: dadansoddiad o’r holl garcharorion o Gymru yn ôl awdurdodau lleol a charchardai a gwybodaeth am darddiad awdurdod lleol yr holl garcharorion o Loegr sydd mewn carchardai yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r prif ganfyddiadau o’r data, a gofnodwyd ym mis Mehefin 2018, yn cynnwys:

  • Roedd 37% o’r holl garcharorion o Gymru (yn seiliedig ar gyfeiriad cartref cyn mynd i’r ddalfa) wedi’u gwasgaru ar draws 104 o garchardai yn Lloegr
  • Roedd carcharorion o Gymru mewn 91% o garchardai yn Lloegr (104 o 116)
  • Mae carcharorion o wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru yn aml mewn carchardai yn Lloegr. Er enghraifft, roedd carcharorion gwrywaidd o Sir y Fflint mewn 44 o wahanol garchardai yn Lloegr. Mae carcharorion gwrywaidd o Sir Gaerfyrddin mewn 36 o wahanol garchardai yn Lloegr
  • Roedd 261 o fenywod o Gymru mewn carchar ar ddiwedd Mehefin 2018. Roedd menywod o Gymru ym mhob un o’r 12 carchar i fenywod yn Lloegr
  • Roedd gan 30% o’r holl garcharorion yng Nghymru ym mis Mehefin 2018 gyfeiriad yn Lloegr cyn mynd i’r ddalfa
  • Roedd carcharorion yn HMP Berwyn, yng ngogledd Cymru, o 125 o awdurdodau lleol yn Lloegr, sef 83% o’r holl ardaloedd awdurdod unedol a sirol yn Lloegr (125 o 151)
  • Roedd carcharorion o 74 awdurdod unedol a sirol yn Lloegr (49%) yng ngharchar HMP ac YOP yn ne Cymru.

Ar hyn o bryd mae cyfanswm o 4,704 o garcharorion o Gymru, sydd wedi’u lledaenu ar draws 110 o wahanol garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Meddai Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darlun ystadegol cywir o’r boblogaeth carchardai yng Nghymru ac o Gymru. Drwy gyhoeddi’r wybodaeth hon yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed, rydym ni’n gobeithio y bydd yn helpu’r rheiny sy’n gyfrifol am garcharorion a’r rhai sy’n gadael y carchar ledled Cymru i dargedu a darparu gwell gwasanaethau.

“Mae’n rhaid inni gydnabod bod lleoliad carcharorion yn fater cymhleth ond pwysig, nad yw wedi’i graffu arno na’i archwilio yn llawn. Fel y dadleuwyd yn ddiweddar gan Brif Arolygydd Carchardai ei Mawrhydi, mae gwasgariad a phellter o’r cartref yn faes sydd angen talu sylw pellach iddo os ydym ni am weld gwell canlyniadau. Rwy’n gobeithio bod yr wybodaeth hon yn cyfrannu at drafodaethau pellach am garcharu a’r system gyfiawnder yng Nghymru.”

Rhannu’r stori hon