Ewch i’r prif gynnwys

GTRC yn sicrhau cyllid ar gyfer CDT EPSRC newydd mewn Systemau Ynni Tanwydd Digarbon Gwydn

25 Chwefror 2019

An image of the flame inside gas turbine.

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) gyllid ar gyfer Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) mewn Systemau Ynni Tanwydd Digarbon Gwydn, gan greu gallu unigryw i gyflawni gwaith ymchwil mewn cymwysiadau ynni-ddwys yn ystod yr wyth mlynedd nesaf.  Mae'r partner diwydiant, GE Power, yn datgan bod y CDT yn "faes ymchwil sy'n hollbwysig i sicrhau ein bod yn cyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon yn y Deyrnas Unedig."

Bydd CDT Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r Ganolfan Ymchwil i Dyrbinau Nwy (GTRC) yn yr Ysgol Peirianneg, a bydd yn gyfleuster graddfa fawr oddi ar y safle sy’n gwneud gwaith ymchwil sy’n arwain y byd ar systemau a thanwydd hylosgi newydd tyrbinau nwy. Bydd yn darparu hyfforddiant ac ysgoloriaethau EPSRC a ariannir yn llawn ar gyfer myfyrwyr PhD sydd am wneud gwaith ymchwil sy'n hollbwysig i ddarparu ynni sy'n llesol i'r amgylchedd ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cydweithio rhwng prifysgolion Nottingham (sy’n arwain), Caerdydd a Sheffield yn ymchwilio i ailbennu diben ac ail-ddefnyddio seilwaith ynni presennol i gyflwyno dadgarboneiddio cyflym a chost-effeithiol ar draws y pedair thema ganlynol:

  • Caniatáu ail-ddefnyddio a datblygu prosesau presennol i gynhyrchu ynni a chyd-gynhyrchion o fiomas carbon isel a thanwydd gwastraff, ac i fwyafu manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y pontio hwn i’r Deyrnas Unedig.
  • Lleihau’r allyriadau CO2 o brosesau diwydiannol drwy weithredu Cipio, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS), ac integreiddio hynny â rhwydweithiau gwresogi lle bo'n briodol.
  • Asesu opsiynau ar gyfer dadgarboneiddio defnyddwyr nwy naturiol (yn danwydd neu’n ddeunydd crai) yn y system cynhyrchu pŵer, diwydiant a gwresogi domestig trwy gyfuniad o wella hydrogen a/neu CO2. Elfen arall hollbwysig o’r thema hon yw datblygu technolegau sy’n galluogi cyflenwad cynaliadwy o H2 heb fawr ddim carbon, a mabwysiadu tanwydd/deunydd crai H2 neu wedi’i gyfoethogi ag H2 mewn amrywiol gymwysiadau yn y sectorau hyn.
  • Awtomeiddio seilwaith presennol trydan, nwy a fectorau eraill (gan gynnwys dulliau presennol a newydd o storio ynni) ar sail technolegau rheoli uwch, cloddio data a datblygu offeryniaeth newydd, gan sicrhau system ynni glyfrach a mwy hyblyg am gost is.   Mae hyn yn caniatáu gweithrediad hyblyg i gefnogi system sy’n cynhyrchu llawer o ynni adnewyddadwy amrywiol.

Dywedodd Dr Richard Marsh, ymchwilydd arweiniol ym Mhrifysgol Caerdydd, 'Bydd y CDT yn darparu ysgoloriaethau EPSRC wedi'u hariannu'n llawn i fyfyrwyr PhD weithio ar rai o'r problemau amgylcheddol ac ynni mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw. Bydd yn cyfuno'r arbenigedd sylweddol a chyfleusterau’r amrywiol bartneriaid dan sylw i helpu i greu arweinwyr peirianneg y dyfodol ym maes ynni di-garbon."

Dywedodd Cyfarwyddwr GTRC, yr Athro Phil Bowen: 'Mae hyn yn cydnabod y cyfraniad sylweddol mae staff GTRC wedi’i wneud i feithrin enw da’r ganolfan yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, trwy allbynnau ymchwil a’u heffaith, yn ogystal â hyfforddiant DPP. Mae’n hawdd mynd ati i esbonio sut mae tyrbin gwynt neu dyrbin llanw yn cyfrannu at yr her ynni: mae esbonio rôl gritigol tyrbinau nwy ym maes dadgarboneiddio, ochr yn ochr â chynnal system ynni wydn, dipyn yn fwy cynnil.  Mae gennym berthynas waith wych gyda'n partneriaid yn Nottingham a Sheffield, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â nhw yn ystod yr 8 mlynedd nesaf.

Mae gan y CDT ystod o gyfleusterau ymchwil a hyfforddi neilltuol ar gyfer prosiectau ymchwil.

Mae’r cyfleusterau tymheredd/pwysedd uchel yn y GTRC yn golygu bod modd ymchwilio i systemau ynni carbon isel, eu datblygu a dileu eu risgiau.  Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu systemau hylosgi carbon sero trwy danwydd megis hydrogen (gyda TATA) a chymysgeddau amonia (gyda Siemens), ochr yn ochr ag optimeiddio methodolegau Cipio Carbon ar gyfer y sectorau diwydiannol a phŵer. Mae biodanwydd gyda Chipio Carbon yn cyflwyno rhagolygon cyffrous pŵer carbon negyddol, h.y. y tu hwnt i ynni adnewyddadwy. Maes ymchwil arall cyffrous yw arfarnu tanwydd awyrennau a gynhyrchir o allyriadau carbon y diwydiant dur, fel y mae dylunio ac argraffu 3D cydrannau pen-poeth fel chwistrellwyr a hylosgwyr, gan alluogi effeithlonrwydd na fu modd ei gyflawni’n flaenorol wrth ddefnyddio technegau gweithgynhyrchu confensiynol.  Mae’r posibiliadau o ran ymchwil ryng-ddisgyblaeth yn aruthrol.

Mae hylosgwyr optegol GTRC yn golygu bod modd datblygu a defnyddio technegau diagnostig optegol uwch er mwyn optimeiddio’r broses hylosgi ar gyfer datrysiadau carbon isel/sero/negyddol. Mae data a gynhyrchir o’r technegau uwch hyn, nad ydynt yn ymwthiol, yn golygu bod modd dilysu modelau llif cymhleth sy’n ymateb i amlgyfnodau cythryblus, na fyddai’n bosibl fel arall.

Cam nesaf y broses CDT fydd crisialu prosiectau ymchwil fydd yn cychwyn ym mis Hydref 2019 neu fis Chwefror 2020.

Rhannu’r stori hon