At the mouth of research
25 Chwefror 2019
Ddydd Llun 18 Chwefror, cynhaliodd ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (ECRs), sy’n gweithio ym maes y Gwyddorau Geneuol a Biofeddygol (OBS) yn yr Ysgol Deintyddiaeth, ddigwyddiad yng Nghyntedd Ysbyty Athrofaol Cymru. Yno, fe gyflwynon nhw eu hymchwil drwy rai gweithgareddau rhyngweithiol.
Mae ymgysylltu a’r cyhoedd yn hanfodol i ymchwilwyr, gan ei fod yn llywio gweithgareddau ymchwil y dyfodol ac yn ysgogi trafodaethau allai ysbrydoli'r syniad mawr nesaf! Ar ben hyn, mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn dod yn rhagamod bellach ar gyfer datblygiad proffesiynol, drwy gryfhau ceisiadau am grantiau a dangos gallu i drafod ymchwil wrth ddefnyddio iaith annhechnegol.
Yn y sesiwn, ymgysylltodd yr ymchwilwyr â bron i 60 o aelodau’r cyhoedd, ac roedd staff, cleifion ac ymwelwyr yn eu plith. Nid oedd llawer o’r ymwelwyr yn ymwybodol o weithgareddau ymchwil yr Ysgol Deintyddiaeth, gan dybio mai ym maes deintyddiaeth yn unig roedd yr ymchwil. Gallai’r cyfranogwyr ddefnyddio Lego (bacteria) a phêl (gwrthfiotig) i ddinistrio’r bacteria ac amlygu’r anawsterau sy’n codi pan mae’r bacteria hyn yn ffurfio bioffilm. Roeddynt yn gallu gweld sut mae arwynebyddion (glanedyddion) yn rhyngweithio ar ddafnau o liwiau bwyd, oedd yn enghreifftio systemau posibl o gyflwyno cyffuriau. Drwy gêm adeiladu ysgerbwd, roedd modd gweld prosesau atgyweirio ac ailfodelu esgyrn. Roedd y cyfranogwyr yn rasio yn erbyn y cloc i adeiladu’r ysgerbwd cyn gynted â phosibl, yn ddibynnol ar y rhif a roliwyd gyda'r disiau.
Dyma adborth gan rai cyfranogwyr a ddaeth i’r digwyddiad:
‘Mae’n syndod nad yw’r ymchwil ym maes deintyddiaeth yn unig.’ ‘Does dim diwedd i ddefnyddiau Lego!’ ‘Fel arfer mae eich ymchwil allan o’r golwg; mae’n braf cael cyfle i'w gweld.’