Ewch i’r prif gynnwys

Menyw Cofebau yn yr Oes Fodern

13 Chwefror 2019

IIC Council members
IIC Council members

Cadwraethwr Caerdydd wedi’i hethol yn Ysgrifennydd Cyffredinol i gorff rhyngwladol

Mae Jane Henderson, Darllenydd mewn Cadwraeth, wedi cael ei hethol i swydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Gweithiau Hanesyddol ac Artistig, sy'n cael ei adnabod yn gyffredinol dan yr enw IIC.

Bydd Jane, a etholwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y sefydliad rhyngwladol yn Llundain ar 28 Ionawr, yn ymuno ag 18 o aelodau Cyngor sy’n gwasanaethu yn wirfoddol.

Drwy gydol ei gyrfa yn y sector treftadaeth a'r byd academaidd, mae Jane wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ar gyfer y Sefydliad Cadwraeth (ICON) ac fel Ymddiriedolwr ar gyfer amgueddfeydd, orielau a chyrff treftadaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae hi wedi dysgu ar raglenni Treftadaeth israddedig ac ôl-raddedig yng Nghaerdydd ers 1984.

Dywedodd: “Mae’n anrhydedd ac yn her dilyn yr holl Ysgrifenyddion Cyffredinol uchel eu parch o'r gorffennol. Rwy’n gobeithio, yn ystod fy amser, i ehangu’r ffyrdd y mae aelodau IIC ledled y byd yn gallu ymgysylltu a chymryd rhan yn y sefydliad, a helpu i baratoi IIC ar gyfer heriau’r dyfodol megis twf mewn aelodaeth, cyhoeddi mynediad agored, cynaliadwyedd a chynnal safle uchel IIC yn y sector”.

Mae’r cadwraethwr, sydd ag enw da yn rhyngwladol, yn rhoi’r anerchiad agoriadol, From the Past to the Future (did we miss anything): The Rise of Risk Assessment, yng Nghynhadledd Cadwraeth Awstralia 2019 ar 18 Chwefror.

Cafodd y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Gweithiau Hanesyddol ac Artistig ei sefydlu ym 1950 gan aelodau ‘Dynion y Cofebau’ - y 300+ o ddynion a menywod o bedair ar ddeg cenedl a wasanaethodd yn yr Adran Cofebau, Celfyddydau Cain ac Archifau (MFAA) yn ystod yr Ail Ryfel Byd,  fel  sefydliad rhyngwladol annibynnol ar gyfer cadwraethwyr proffesiynol, er mwyn addysgu, galluogi a chydnabod rhagoriaeth ymysg gweithwyr proffesiynol cadwraeth ledled y byd.

Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig graddau ar bob lefel ym maes Cadwraeth, o lefel israddedig (BSc Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg) hyd at lefel ôl-raddedig, gan gynnwys MPhil a PhD.

Rhannu’r stori hon