Ewch i’r prif gynnwys

Arsylwi ar y Bydysawd o'r ystafell ddosbarth

1 Hydref 2015

Telescope

Arian newydd ar gyfer prosiect Prifysgol Caerdydd yn galluogi plant ysgol i arsylwi'r bydysawd yn y dosbarth

O ganlyniad i arian newydd sydd wedi'i roi i brosiect gan Brifysgol Caerdydd, bydd disgyblion cynradd yng Nghymru yn cael y cyfle i edrych ar y bydysawd drwy ddefnyddio telesgopau uwch-dechnoleg o gwmpas y byd.

Heb orfod symud cam o'u hystafell ddosbarth, bydd y plant ysgol yn gallu ymchwilio i lu o ryfeddodau'r cosmos drwy reoli telesgopau o bell dros y rhyngrwyd.

Mae'r fenter yn rhan o gam nesaf prosiect Y Bydysawd yn y Dosbarth Prifysgol Caerdydd sydd wedi cael arian am 3 blynedd arall gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Y nod yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr drwy alluogi myfyrwyr i gynnal eu hymchwiliadau eu hunain gyda data ac offer gwyddonol o safon broffesiynol, a helpu i feithrin sgiliau meddwl beirniadol a llythrennedd digidol yn gynnar iawn. 

Partneriaeth rhwng rhwydwaith Las Cumbres Observatory Global Telescope (LCOGT), Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru yw 'Telesgop Robotig Cymru'.

Bydd ysgolion cynradd yn gallu mewngofnodi i raglen Telesgop Robotig Cymru a'i defnyddio o fis Medi 2015.  Bydd y myfyrwyr ysgol gynradd yn gallu defnyddio telesgop newydd sbon yn Chile yn Arsyllfa Las Cumbres, un o safleoedd arsylwi gorau'r byd, yn ogystal â dwsin o delesgopau proffesiynol eraill drwy'r partneriaethau gyda LCOGT.

Dywedodd Sarah Eve Roberts, Cydlynydd Prosiect Y Bydysawd yn y Dosbarth: "Telesgop Robotig Cymru yw'r unig raglen addysg yn y byd sy'n galluogi plant ysgolion cynradd i ddefnyddio telesgop robotig, ac mae ar gael ar gyfer disgyblion yng Nghymru yn unig. Bydd y teclyn unigryw hwn yn cynnig elfen ddigidol ategol i gyd-fynd â'r deunyddiau ymarferol a roddwyd iddynt yn ystod cam cyntaf y prosiect."

Fel rhan o'r prosiect, sydd hefyd o dan arweinyddiaeth Dr Edward Gomez a'r Athro Haley Gomez o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd, bydd y tîm yn datblygu amrywiaeth o weithgareddau e-ddysgu sy'n annog ymholiadau ac yn seiliedig ar arsylwi'r Bydysawd drwy ddefnyddio telesgop.

Drwy gydol 2014, bu prosiect Y Bydysawd yn y Dosbarth ar waith mewn 99 ysgolion cynradd yng Nghymru. Fe hyfforddodd 131 o athrawon a llwyddodd i gyrraedd miloedd o fyfyrwyr ledled Cymru gan gynnig adnoddau ymarferol a hyfforddiant proffesiynol.

"Mae'r prosiect hwn hefyd yn ceisio cefnogi athrawon drwy roi adnoddau arloseol a chyfleoedd cyffrous iddynt i anelu i gefnogi athrawon drwy ddarparu adnoddau arloesol a'r cyfleoedd cyffrous i roi bywyd newydd i'w gwersi gwyddoniaeth," meddai Dr Edward Gomez.

"Heb y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Prifysgol Caerdydd ac Arsyllfa Las Cumbres, a'n partneriaeth gyda phrosiect Ymwybyddiaeth o'r Bydysawd a wnaeth ein hysbrydoli, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl."

Rhannu’r stori hon