Rhestr THE o Brifysgolion Gorau'r Byd
30 Medi 2015
Mae'r Brifysgol wedi cyrraedd ei safle uchaf ers 2009 mewn tabl cynghrair byd-eang uchel ei pharch
Gan godi 26 o safleoedd, mae'r Brifysgol erbyn hyn yn y 200 uchaf yn Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd.
Mae'r naid i safle 182 yn dilyn safle uchaf y Brifysgol ers pum mlynedd yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd yn yn gynharach y mis hwn.
Mae'r canlyniadau hefyd yn adeiladu ar berfformiad rhagorol y Brifysgol yn Rhestr QS fesul pwnc a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae'n braf iawn ein gweld yn gwneud cynnydd sylweddol yn rhestr fyd-eang Times Higher Edication mor fuan ar ôl cael canlyniad da yn rhestr QS.
"Mae gennym ddatblygiadau mawr ar y gweill ar gyfer y blynyddoedd nesaf, yn enwedig ein campws arloesedd £300m a chyfleusterau newydd fel Canolfan y Myfyrwyr, fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r cyfeiriad cywir.
"Ein nod yw bod yn brifysgol a gaiff ei pharchu ar draws y byd, felly mae'n bwysig cael ein cydnabod yn y tablau cynghrair. Fodd bynnag, rydym bob amser yn canolbwyntio ar ein gweithgareddau craidd, sef addysgu ac ymchwil."
Dywedodd Phil Baty, Golygydd Rhestr THE o Brifysgolion Gorau'r Byd: "Mae Rhestr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd, sydd wedi'i chynnal ers 12 mlynedd bellach, yn edrych ar safonau llym a meincnodau byd-eang anodd yng nghyd-destun holl brif brosiectau prifysgol ymchwil fyd-eang - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a rhagolygon rhyngwladol.
"Mae myfyrwyr a'u teuluoedd, academyddion, arweinwyr prifysgolion a llywodraethau yn ymddiried yn y canlyniadau. Mae'r ffaith bod Prifysgol Caerdydd yn safle 182 yn y byd yn gyflawniad eithriadol a ddylai gael ei ddathlu."