Ewch i’r prif gynnwys

Atal camddefnyddio gwrthfiotigau

12 Chwefror 2019

Pharmacist holding medicine box and capsule pack

Mae Prifysgol Caerdydd wedi arwain y gwaith o lunio adnodd sy’n rhoi gwybodaeth hanfodol ar gyfer atal a rheoli ymwrthedd gwrthfiotig i fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd. Mae’r Llywodraeth newydd gynnwys yr adnodd hwn yn rhan o’i chynllun cenedlaethol pum mlynedd i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon.

Mae heintiau nad oes modd eu trin yn hawdd â gwrthfiotigau yn fygythiad difrifol i iechyd dynol ar draws y byd. Ym maes gofal iechyd, mae llawer o driniaethau a llawdriniaethau cyffredin yn dibynnu ar wrthfiotigau i gadw heintiau draw.

Mae ymwrthedd gwrthfiotig yn cael ei hybu ym mhresenoldeb gwrthfiotigau. Felly, mae’n hollbwysig defnyddio gwrthfiotigau pan mae angen gwneud hynny yn unig. Fodd bynnag, gall llawer o ffactorau achosi i weithwyr gofal iechyd ragnodi gwrthfiotigau’n ddiangen.

O gofio hyn, datblygodd grŵp cydweithiol o ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd o sawl prifysgol a chanolfan iechyd ledled y DU, fframwaith cymhwysedd newydd i hyrwyddo defnyddio gwrthfiotigau yn y ffordd orau bosibl. Yr Athro Molly Courtenay, Athro’r Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, arweiniodd y grŵp cydweithiol hwn.

Mae cymdeithasau gwyddonol a phroffesiynol, gan gynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, y Coleg Podiatreg, Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Gofal Resbiradol a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Meddai’r Athro Courtenay: “Mae cynyddu a gwella addysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a myfyrwyr gofal iechyd ynghylch gwrthfiotigau ac ymwrthedd gwrthfiotig yn hanfodol i’n hymdrechion i wella’r defnydd o wrthfiotigau.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ddeinamig, yn arloesol ac yn flaengar, a chydnabyddir ein rhagoriaeth ym meysydd dysgu, addysgu ac ymchwil.